Mae prif swyddogion meddygol pedair gwlad y Deyrnas Unedig wedi cytuno i israddio lefel gwyliadwriaeth coronafeirws o 4 i 3 yn sgil gostyngiad graddol a chyson mewn achosion.

Mae lefel 3 yn golygu bod yr epidemig yn dal yn bresennol ond y gellir llacio’r cyfyngiadau yn raddol. Barn yr arbenigwyr yw nad yw’r coronafeirws yn atgynhyrchu ar raddfa digon mawr ar hyn o bryd i fod angen cadw’r lefel risg ar 4.

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd llywodraeth Prydain, Matt Hancock, fod israddio’r lefel gwyliadwriaeth yn “foment fawr” i Brydain, a’i fod yn dangos “y wlad yn codi’n ôl ar ei thraed”.

Cafodd y drefn o raddio lefel y peryglon coronfeirws o 1 i 5 ei chyhoeddi gan y Prif Weinidog Boris Johnson y mis diwethaf. Caiff y lefel uchaf, 5, ei ddiffino fel yr haint ar gynnydd mawr a pherygl i wasanaethau iechyd gael eu llethu, tra byddai lefel 1 yn golygu fod y coronafeirws wedi diflannu o’r Deyrnas Unedig.