Mae Arweinydd Grŵp plaid newydd y WNP ar Gyngor Gwynedd, Peter Read, wedi lansio deiseb yn galw am atal mwy o dai haf yng Ngwynedd.
Gadawodd Peter Read Blaid Cymru er mwyn ymuno â ‘Phlaid Genedlaethol Cymru’ ar ddechrau mis Mai, gan ddweud bod gwleidyddiaeth “clir a ffres” y WNP wedi ei annog i droi ei gefn ar Blaid Cymru.
“Mae’r Blaid Genedlaethol eisiau i dai lleol fod ar gyfer pobl leol. Mae hyn yn fater sylfaenol i ni,” meddai Peter Read.
“Mae Cynllun Datblygu Lleol Plaid Cymru yn caniatáu trosi cartrefi teulu yn dai haf. Rhaid i hyn newid.
“Mae’r Blaid Genedlaethol o’r farn bod y drefn yng Nghymru yn llawer rhy ganolog, a gormod o benderfyniadau yn cael eu gwneud yng Nghaerdydd.
“Rydym yn credu mewn democratiaeth leol ac yn cefnogi rhoi pleidlais uniongyrchol i bobl leol gael penderfynu ar gynlluniau datblygu lleol trwy refferenda.”