Mae cwmni yn y gogledd a gafodd ei sefydlu yn ystod y cloi mawr yn mynd o nerth i nerth, yn ôl y perchennog Siwan Owens.
Ers deufis bellach, mae Slogan Cymru wedi bod yn creu a gwerthu crysau T sydd â negeseuon calonogol arnynt.
A hithau’n Sul y Tadau yfory, mae gan y cwmni nifer o grysau addas ar werth.
“Maen nhw wedi bod yn boblogaidd iawn hyd yma,” meddai Siwan Owens wrth golwg360.
“Er, dw i ddim yn hollol siŵr faint yn union o grysau Sul y Tadau sydd wedi cael eu gwerthu chwaith.”
Merch yn ysbrydoli Mam i sefydlu busnes
Sefydlodd Siwan Owens Slogan Cymru yn ystod y cloi mawr, a dywed iddi gael eu hysbrydoli gan ei merch Lois, sy’n 21 oed.
“Mae fy merch, Lois yn gweithio mewn swydd ac yn rhedeg busnes lliwio ewinedd,” meddai Siwan Owens.
“Felly hi sydd wnaeth fy ysbrydoli i sefydlu’r busnes, oherwydd roeddwn wedi bod yn chwarae â’r syniad ers tua blwyddyn ond hi roddodd yr hyder imi lansio’r busnes.
“Y bwriad oedd creu crysau T sy’n gapsiwl o atgofion i bobol am flynyddoedd maith i ddod.
“Ryda ni wedi bod yn lwcus i gael cefnogaeth gan enwogion Cymru, cael siarad ar Radio Cymru a rhaglen Heno.
“Dwi wedi dychryn efo faint o sylw ryda ni wedi ei gael, ryda ni wedi gwerthu 1,500 dilledyn i wledydd mor bell ag Awstralia, yr Almaen a Sweden.”
“Rhoi yn ôl”
Un o brif egwyddorion Slogan Cymru yw’r syniad o “roi yn ôl,” meddai Siwan Owens wrth golwg360.
Lansiodd y cwmni grys T â’r gair ‘Diolch’ arno, gan addo rhoddi holl elw’r crys i elusennau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Roedden ni’n meddwl ei fod o’n beth pwysig i’w wneud, ac yn y diwedd fe lwyddom i gasglu ychydig yn llai na £340,” meddai Siwan Owens.
“Rydym yn credu’r gryf mewn rhoi’n ôl.”
Ffordd arall mae Slogan Cymru yn rhoi yn ôl yw defnyddio cwmni cynhyrchu adnewyddadwy i greu’r crysau T.
“Y peth da ydi, pan mae’r crys yn dod at ddiwedd ei fywyd, yn dyllau i gyd ac ati, gallwch ei anfon yn ôl i’r cwmni i’w ailddefnyddio a derbyn tocyn gwerth £5 i’w wario,” eglura Siwan Owens.
Yn ogystal â rhedeg Slogan Cymru, mae Siwan Owens yn gweithio fel ymarferydd i Iechyd Cyhoeddus Cymru ym Mangor.