Mae Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd rheolau’r cyfnod clo yn llacio dros y tair wythnos nesa’.
Ddydd Llun nesa’ mi fydd sawl rheol yn cael ei llacio, a’r newid amlycaf yw y bydd holl siopau Cymru yn cael ailagor.
Mewn pythefnos (Mehefin 29) bydd plant yn dychwelyd i’r ysgol – roedd hyn eisoes wedi’i gyhoeddi – ac mewn tair wythnos (Gorffennaf 6) mae’n bosib y bydd rhwydd hynt gan bobol i deithio lle bynnag maen nhw eisiau.
Hyd yma mae’r cyhoedd wedi cael eu hannog i aros o fewn pum milltir i’w cartref, ac mae’r Prif Weinidog wedi galw ar bobol i gadw at y rheol am y tro er mwyn galluogi’r newid iddo.
“Rydym yn gofyn i bobol Cymru aros yn lleol, ac yn ddiogel, am bythefnos arall,” meddai Mark Drakeford yn ystod cynhadledd i’r wasg.
“Ac mae’r rheswm am hynny yn syml. Dyw coronafeirws ddim wedi dod i ben. Pob dydd mae pobol yn cael eu heintio. Mae pobol yn marw pob dydd, ac mae hynny’n drist iawn.
“Bydd pythefnos arall o aros yn lleol yn ein helpu i aros ar y llwybr rydym wedi creu gyda’n gilydd. Gofalus a gwyliadwrus, ond yn ennill tir.
“Rydym wedi llwyddo rheoli tân coronafeirws,” meddai wedyn, “ond mae’r tân yno o hyd.”
O heddiw ymlaen mae yna eithriad i’r rheol, ac mi fydd modd i bobol deithio y tu allan i’w hardaloedd lleol os ydyn nhw wedi profi galar neu os oes aelod o’r teulu yn sâl (compassionate grounds).
Dydd Llun
O Fehefin 22 ymlaen:
- Bydd siopau nad yw’n gwerthu nwyddau hanfodol yn medru ailagor
- Bydd y farchnad dai yn dechrau ailagor
- Gyda phobol yn medru ymweld â thai sydd ar werth/sy’n cael eu rhentu
- A phobol yn medru cwblhau’r broses o werthu tai
- Bydd cyfyngiadau ar rywfaint o weithgareddau tu allan yn codi
- Gyda marchnadoedd tu allan yn ailagor
- A chyrtiau chwaraeon yn ailagor (ar gyfer chwaraeon lle nad oes cyffwrdd neu dimau)
- Bydd mannau addoli yn ail agor ar gyfer gweddïo preifat
- Bydd gwasanaethau gofal plant yn ail agor yn raddol
Y pum rheol euraidd
Fel bod y rheolau yn medru llacio, mae Mark Drakeford yn dweud y dylid cadw at y “pum rheol euraidd”:
- Gweithio o adref os yn bosib
- Osgoi teithio diangen
- Cwrdd â dim ond un ‘cartref’ ar y pryd, tu allan
- Cadw pellter rhwng pobol
- Golchi dwylo yn aml
Paratoi
Yn ystod y gynhadledd i’r wasg dywedodd hefyd bod modd i ambell gorff a busnes baratoi am ragor o lacio.
Mi alwodd ar gynghorau, parciau cenedlaethol, ac atyniadau, i baratoi dros yr wythnosau nesa’ at y llacio ar Orffennaf 6.
Dywedodd y dylai busnesau torri gwallt baratoi am lacio mewn tair wythnos hefyd – dywedodd y byddai’n rhaid gwneud apwyntiad cyn torri gwallt pan ddaw’r llacio.
Twristiaeth
Dywedodd Mark Drakeford fod gan fusnesau twristiaeth dair wythnos i baratoi ar gyfer y newidiadau posibl, ac y gallai’r sectorau twristiaeth ac ymwelwyr yn awr gynllunio i groesawu pobl pan fydd y gofyniad “aros yn lleol” yn cael ei godi.
Golyga hyn, yn ymarferol, y gall busnesau ddechrau cymryd archebion ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau ar 13 Gorffennaf, er i Mr Drakeford rybuddio y byddai’n rhaid iddo fod ar eu risg eu hunain gan y gallai’r cynllun newid.
Bydd ymwelwyr yn cael eu cyfyngu i lety hunangynhwysol, megis carafanau gyda’u cegin ac ystafell ymolchi eu hunain, bythynnod, a gwestai a gwely a brecwast sydd yn en-suite ac sy’n darparu ‘gwasanaeth ystafell’ o ran bwyd.