Er bod niferoedd marwolaethau coronafeirws Prydain yn mynd o ddrwg i waeth, parhau mae’r gobeithion ein bod yn nesáu at y brig ac y daw tro ar fyd.
Law yn llaw â hynny clywn ddyfalu cynyddol am lacio’r cyfyngiadau llym sydd wedi bod arnom.
Un o’r peryglon mwyaf a all ddod yn sgil hynny yw bod y cyfyngiadau’n cael eu llacio i’r un graddau ledled Prydain ar sail beth fydd y sefyllfa yn y dinasoedd mawr. Canlyniad anochel hynny fyddai llifeiriant direolaeth o dwristiaid yn heidio i ardaloedd gwledig sydd wedi cadw’n iach hyd yma.
Yn sicr, mae’n holl bwysig fod Cymru’n cymryd rheolaeth lwyr ar ei chyfyngiadau ei hun. Calonogol oedd geiriau’r Prif Weinidog ddoe y bydd yn gwneud yr hyn sy’n iawn i Gymru ac nid yn edrych dros ei ysgwyddau ar beth fydd yn digwydd yn Lloegr.
Dydi heintiau fel y coronafeirws ddim yn cydnabod unrhyw ffiniau gwleidyddol, wrth gwrs, ac un o wersi pwysicaf yr holl argyfwng ydi’r angen am fwy o gydweithredu byd-eang.
O dan y sefyllfa benodol bresennol, fodd bynnag, mae cryn wahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr, gan fod nifer yr achosion hyd yma yn llawer llai mewn cymhariaeth yma.
Felly ni ddylai Llywodraeth Cymru betruso am eiliad cyn mynnu parhau â gwaharddiadau yng Nghymru ar ôl iddyn nhw gael eu llacio yn Lloegr os bydd angen. Mae achub bywydau yn anhraethol bwysicach nag unrhyw anhwylustod y gall ffin galed rhwng y ddwy wlad ei achosi.
Wrth gwrs, nid ar sail y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn unig y mae modd gwahaniaethu. Mae’n sicr fod yna ardaloedd gwledig o fewn Lloegr a allai elwa’n fawr o barhau’r cyfyngiadau ar ormod o ymwelwyr o’r dinasoedd.
Rhaid cofio bod gwahaniaethau sylweddol o fewn Cymru hefyd, gyda siroedd fel Gwynedd, Ceredigion, Conwy, Powys a Môn â niferoedd rhyfeddol o isel hyd yma o achosion.
Efallai fod angen meddwl mwy am sut i gadw ardaloedd fel hyn yn gymharol rydd o’r haint yn lle bod yn gweithredu’n ormodol ar sail gwlad, boed hynny ar lefel Cymru neu Brydain.
Yn benodol, mae angen mesurau neilltuol o lym i ddiogelu ardaloedd sy’n cael eu boddi gan dwristiaid.
Mae adroddiadau am berchnogion tai haf yn sleifio yma liw nos gan anfon eu bagiau ar wahân i dwyllo’r heddlu yn ddigon i gythruddo’r mwyaf goddefgar ohonom.
Mae’n sicr o ail-danio’r anniddigrwydd sydd o dan yr wyneb am y graddau mae’r Gymru wledig, gan gynnwys rhai o gadarnleoedd cryfaf y Gymraeg, yn cael eu goresgyn gan fewnlifiad unffurf Seisnig ei ddiwylliant.
Ar un adeg roedd tueddiad gan rai i geisio creu’r argraff bod y gwrthwynebiad i dai haf yn seiliedig ar ryw fath o ideoleg cymdeithasol ac nad oedd cymaint â hynny o arwyddocâd diwylliannol iddo. Yr awgrym oedd yn deillio o hynny oedd y byddai pawb yn berffaith hapus pe bai’r perchnogion yn byw yma drwy’r flwyddyn.
Fydd neb yn gallu twyllo’u hunain gydag argraff o’r fath bellach. Y peth OLAF fydd arnom ei eisiau fyddai gweld perchnogion fel rhain, nac ychwaith ymwelwyr di-hid a hunanol tebyg iddyn nhw, yn byw yn ein plith yn barhaol.
Ar lawer ystyr, neges fwy gonest bellach yw: Os oes yn rhaid ichi gael tŷ haf yng Nghymru, rydan ni’n apelio’n daer arnoch i dreulio cyn lleied ag sy’n bosibl o’ch amser ynddo.
Yn sicr, rhaid fydd datgan yn glir na fydd fyth groeso yma i neb sydd wedi dangos difaterwch at ein hiechyd yn ystod y dyddiau dyrys a phryderus hyn.
Huw Prys Jones