Mae dyn 99 oed a wnaeth oroesi tair blynedd fel carcharor rhyfel yn yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd newydd oroesi brwydr arall yn erbyn y coronafeirws.
Roedd staff ysbyty yn Doncaster yn curo dwylo wrth i Albert Chambers, a fydd yn 100 oed ym mis Gorffennaf, adael i fynd adref ddoe.
Roedd wedi mynd i’r ysbyty yn wreiddiol ar ôl torri ei fraich, ond bu’n rhaid iddo aros i mewn i gael gofal ar ôl iddo ddangos arwyddion o’r coronafeirws.
Roedd yn aelod o’r Coldstream Guards yn yr Ail Ryfel Byd, a chafodd ei anafu yn yr Almaen a’i ddal yn garcharor.
Dywedodd ei fod yn “ddyn lwcus iawn”.
“Pan fydda i adref fe fyddaf yn dweud wrth bawb o’m cymdogion pa mor wych yw’r nyrsys yma,” meddai.
“Dw i’n gwerthfawrogi pob dim maen nhw wedi’i wneud imi. Allan nhw ddim wedi bod ddim gwell. Dw i’n diolch yn fawr iddyn nhw.”