Wrth i nifer y marwolaethau coronafeirws mewn un diwrnod godi’n uwch nag erioed i 980 ym Mhrydain ddoe, mae Sbaen a’r Eidal yn dangos gostyngiadau calonogol bellach.
Fe fu farw 510 yn Sbaen rhwng ddoe a heddiw. Hwn yw’r nifer isaf o farwolaethau dyddiol ers bron i dair wythnos, ac mae i lawr o 950 ar 2 Ebrill.
Mae’r cyfrif dyddiol diweddaraf o farwolaethau coronafeirws yn yr Eidal – 570 – hefyd yn sylweddol is na’r uchafbwynt o 919 bythefnos yn ôl. Mae niferoedd y marwolaethau wedi hofran rhwng 500 a 600 yno dros yr wythnos ddiwethaf.
Ar ôl dioddef bron i 19,000 o farwolaethau – y nifer mwyaf mewn unrhyw wlad ledled y byd – mae’r Eidal yn paratoi’r ffordd ar gyfer llacio mymryn ar ei chyfyngiadau caeth dros yr wythnosau nesaf.
Mae Sbaen hefyd wedi dioddef 16,353 o farwolaethau ers cychwyn yr haint, er bod 59,000 wedi gwella ohono.
Mae ‘lockdown’ ers mis wedi helpu Sbaen i arafu’r cynnydd dyddiol yn y niferoedd o bobl sydd wedi eu heintio o fwy na 20% bythefnos yn ôl i 3%.