Mae arolwg gan Fanc Lloyds o wariant eu cwsmeriaid dros y mis diwethaf yn dangos newidiadau mawr o gymharu ôl blwyddyn yn ôl.

Mae’r newid amlycaf i’w weld mewn costau teithio. Ar 10 Mawrth, roedd y gwariant ar gostau teithio i’r gwaith 1% yn uwch na’r un adeg y llynedd. Erbyn 1 Ebrill roedd pobl yn gwario 89% yn llai. Roedd y gwariant ar betrol neu ddisel hefyd i lawr 55%.

Mae’n dangos anwadalwch mawr yn y gwariant mewn archfarchnadoedd dros y mis diwethaf, gydag ymchwydd mawr yn y cyfnod o ruthro i brynu ar y cychwyn cyn i’r mesurau ymbelláu ddod i rym.

Cyrhaeddodd gwariant archfarchnadoedd y brig ar 19 Mawrth, gyda’r swm a gafodd ei wario yn 76% yn uwch na’r un diwrnod y llynedd. Mae’r gwariant a nwyddau groser wedi lleihau ers hynny ac yn fwy cyson bellach.