Mae heddluoedd ledled Prydain wedi diolch i’r cyhoedd am aros adref a chadw draw o gyrchfannau poblogaidd yng nghefn gwlad ddydd Gwener y Groglith.
Mae’n dilyn patrôls llwyddiannus gan yr heddlu i gadw pobl rhag ffoi o’r dinasoedd dros y Pasg.
Mae lluniau gan y cwmni technoleg TomTom yn dangos bod traffig yn Llundain, Manceinion a Birmingham yn llawer is nag yn ystod y Pasg y llynedd.
Yn y cyfamser, mae heddlu Surrey wedi bod yn defnyddio drôns i chwalu grwpiau o bobl sy’n anufuddhau i reoliadau ymbelláu cymdeithasol.
Dywed yr heddlu fod y dull hwn o gyfathrebu wedi bod yn effeithiol, gan nad oedd yn rhoi plismyn mewn perygl wrth orfod mynd i siarad gyda’r bobl, a bod grŵp o 30 o bobl yn Walton-on-Thames wedi gadael heb i’r heddlu orfod cymryd camau pellach.
Mae’r drôn ‘sky talk’ sy’n cael ei hanfon at grwpiau mawr o bobl sy’n ymgynnull mewn mannau awyr agored yn adrodd y neges: “Dyma neges gan yr heddlu. Rydych yn ymgasglu yn groes i ganllawiau’r llywodraeth i aros adref mewn ymateb i’r coronafeirws. Rydych chi’n peryglu bywydau. Gwasgarwch ar unwaith ac ewch yn ôl adref.”