Mae pryderon o hyd a oes digon o offer diogelwch personol i weithwyr iechyd i’w hamddiffyn rhag y coronafeirws.
Mae Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Matt Hancock, wedi cythruddo undebau nyrsys wrth awgrymu ddoe fod digon o offer diogelwch i bawb os yw’n cael ei ddefnyddio’n unol â chanllawiau swyddogol.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Coleg Brenhinol y Nyrsys, Donna Kinnair, ei bod yn clywed bob dydd gan nyrsys nad oes ganddyn nhw ddigon o offer diogelu.
“Dw i’n ei weld fel sarhad yr awgrym fod gweithwyr gofal iechyd yn camddefnyddio neu’n gorddefnyddio offer diogelwch,” meddai.
“Yr hyn a wyddon ni yw nad oes gennym ddigon o gyflenwad a dim cyflenwad digon rheolaidd o offer diogelwch.
“Dyna’r prif bryder mae nyrsys yn tynnu fy sylw ato.”