Er i bron fil o farwolaethau newydd o’r coronafeirws gael eu cyhoeddi ddoe, mae rhywfaint o le i obeithio bod nifer yr achosion ym Mhrydain yn nesáu at y brig.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Matt Hancock, ei bod yn dal yn rhy gynnar i ddweud a yw’r brig wedi ei gyrraedd eto.
“Y newyddion da yw ein bod ni wedi gweld y nifer o bobl sy’n mynd i ysbytai yn cychwyn – dw i’n pwysleisio cychwyn – gwastadhau,” meddai.
“Gallwch weld eu bod, yn lle cynyddu allan o bob rheolaeth fel fyddai wedi digwydd pe na baen ni wedi cymryd y mesurau, yn cychwyn dod i lawr a gwastadhau.
“Dydyn ni ddim wedi gweld digon o hynny i gael yr hyder i wneud newidiadau.
“Does neb yn gwybod a ydym wedi cyraedd y brig.”
Barn swyddog meddygol
Roedd yr Ysgrifennydd Iechyd yn ategu sylwadau’r Athro Jonathan Van-Tam, dirprwy brif swyddog meddygol Prydain.
“Rydym yn dal mewn cyfnod peryglus,” meddai. “Mae cynnydd graddol wedi bod yn y nifer sy’n mynd i ysbytai, ond o bosibl gallwch weld bod rhywfaint o wyro yn y tueddiad.
“Mae’n amhosibl gweld a ydym wedi cyrraedd y brig. Mae Llundain wedi mynd i lawr yn y diwrnod diwethaf, ond mae Swydd Efrog a Gogledd-Ddwyrain Lloegr wedi mynd i fyny.”
Roedd y 980 o farwolaethau newydd a gafodd eu cyhoeddi ddoe y nifer uchaf mewn cyfnod o 24 awr. Roedd y 29 a fu farw yng Nghymru, fodd bynnag, yn is na’r diwrnod cynt.