Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y gogledd yn cael ei thrin yn gydradd â gweddill y wlad wrth iddi fynd i’r afael â heriau coronafeirws.

Dyna’r rhybudd a ddaw mewn llythyr gan grŵp o Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol Plaid Cymru sy’n cynrychioli seddi yn y gogledd.

Mae’r llythyr wedi’i anfon at y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ac yn galw am gynnal rhagor o brofion covid-19 yn y gogledd.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd pob cam y gallan nhw i sicrhau nad yw gogledd Cymru’n cael ei gadael ar ôl, wrth ddelio â’r pandemig,”

“Mae cynnal profion yn rhan greiddiol o frwydro’r feirws, a dyw’r gweithdrefnau sydd mewn grym hyd yma yng Nghymru ddim wedi bod yn ddigonol.

“Mae’n ymddangos bod y gogledd dan anfantais – a hynny’n fwy na rhanbarthau eraill. Rhaid sicrhau nad yw pobol gogledd Cymru dan anfantais oherwydd eu cod post.”

Rhun ap Iorwerth, Siân Gwenllïan, Hywel Williams, Liz Saville Roberts, Llŷr Gruffydd yw’r rheiny sydd wedi arwyddo’r llythyr. Mae golwg360 wedi gofyn i’r Llywodraeth am ymateb.

Cymhariaeth â Chaerdydd

Daw hyn wedi i Brif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Cymru, Dr Andrew Goodall, gynnig esboniad am y gwahaniaeth mewn nifer y profion sy’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd o gymharu â’r gogledd.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 644.1 o bob 100,000 person yng Nghaerdydd wedi derbyn prawf, tra bod 213.3 o achosion wedi’u cofnodi am bob 100,000 person.

Sir Ddinbych yw’r sir ogleddol sydd â’r nifer uchaf o brofion am bob 100,000 person (301.1) a’r nifer uchaf o achosion am bob 100,000 (59.8).