Mae un o uchel swyddogion prif undeb y gweithwyr rheilffyrdd wedi cael ei wahardd o’i waith ar ôl gwneud sylwadau “annerbyniol” am y Prif Weinidog yn sâl o’r coronafeirws.

Mae’n debyg fod Steve Hedley, ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol yr Undeb Rheilffyrdd, Morol a Thrafnidiaeth (RMT), wedi crybwyll trefnu parti, wrth gyfeirio at gyflwr Boris Johnson.

Meddai llefarydd ar ran yr undeb:

“Yn dilyn cyfarfod o Bwyllgor Gwaith yr undeb, gwnaed penderfyniad i wahardd yr ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol Steve Hedley o’i waith ar unwaith, tra bod ymchwiliad ffurfiol yn cael ei wneud i’w ymddygiad.”

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd llywydd yr RMT, Michelle Rodgers a’r ysgrifennydd cyffredinol Mick Cash:

“Nid yw sylwadau Steve Hedley yn cynrychioli barn yr undeb hwn ac maen nhw’n gwbl annerbyniol.”