Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 29 yn rhagor o bobl wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru, gan godi cyfanswm y marwolaethau i 315.

Mae 502 o achosion newydd wedi cael eu cadarnhau gan wneud cyfanswm yr achosion yn 4,591, ond dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y nifer gwirioneddol o achosion yn debygol o fod yn uwch.

Mae gwahaniaeth mawr o fewn Cymru yn nifer yr achosion, gyda llawer iawn llai yn y siroedd gwledig.

Mae cyfanswm yr achosion o 483 yn Nghasnewydd, 875 yng Nghaerdydd, 454 yn Rhondda Cynon Taf a 404 yn Abertawe yn cymharu â chyfansymiau o 36 yn Môn, 18 yng Nghonwy, 26 yng Ngheredigion a 37 yng Ngwynedd.

Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu’n rhannol y ffaith fod llawer llai o brofion wedi bod yn y siroedd gwledig a’r poblogaethau’n is yno. Hyd yn oed ar ôl ystyried y ffactorau hyn, fodd bynnag, mae’r cyfraddau o achosion positif o blith y rheini sydd wedi cael eu profi yn dal i fod o leiaf ddwywaith i deirgwaith yn uwch yn ninasoedd ac ardaloedd trefol y de.