Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd unrhyw benderfyniadau ar ymbelláu cymdeithasol yn cael eu gwneud ar sail anghenion Cymru ac nid ar beth fydd yn digwydd yn Lloegr.
“Fyddwn ni ddim yn llacio’r mesurau ond pan fydd y dystiolaeth yn dangos ei bod yn ddiogel gwneud hynny,” meddai mewn sesiwn briffio i’r wasg yng Nghaerdydd amser cinio heddiw (Dydd Gwener, 10 Ebrill).
“Fe fyddwn ni’n gwneud y peth iawn i Gymru ar yr adeg sy’n iawn i Gymru, a fyddwn ni ddim yn gwneud hynny wrth edrych dros ein hysgwyddau ar beth mae eraill yn ei wneud.”
Roedd yn rhybuddio y gallai cyfyngiadau cymdeithasol gael eu ‘tynhau’ yng Nghymru, os bydd y canllawiau’n cael eu torri ar raddfa fawr.
“Mae’n rhaid i’r lleiafrif bach sy’n torri’r rheolau gael y neges a chydymffurfio,” meddai.
Fe wnaeth hefyd ymateb i feirniadaeth gan rai o fewn llywodraeth Prydain ar ôl iddo gyhoeddi ymestyniad o’r ‘lockdown’ yng Nghymru ddydd Mercher cyn cyhoeddiad tebyg yn Llundain.
Roedd yn gwadu iddo wneud hynny “er mwyn achub y blaen ar San Steffan”.
Meddai: “Roedd arna’ i eisiau bod yn onest gyda phobl Cymru a ddim eisiau iddyn nhw dreulio’r Pasg yn meddwl eu bod nhw’n nesáu at y diwedd ac y byddai’r cyfyngiadau drosodd yr wythnos nesaf.”