Morgan Owen
Yn sgil y ffrae ddiweddar am ddefnyddio’r Gymraeg mewn siop Starbucks yn Aberystwyth, Morgan Owen sy’n holi pam ddylen ni orfod troi at y Saesneg?

Testun siomedigaeth a dicter oedd clywed i siaradwraig Gymraeg gael ei chystwyo am fod mor feiddgar â siarad iaith frodorol y wlad hon― yn y wlad hon!

Heblaw am fod y sefyllfa hon yn gwbl wallgof o drefedigaethol, mae’n amlygu ambell dueddiad annifyr iawn.

Yn wir, pan glywais taw yn Aberystwyth y digwyddodd hyn, suddodd fy nghalon i’m gwadnau, a hynny oherwydd na ches i fy synnu.

Achos arbennig iawn yw Aberystwyth cyn belled ag y bo’r Gymraeg yn y cwestiwn. Ymhelaethaf.

Tref Gymreig

Dengys ffigurau Cyfrifiad 2011 fod 47% o drigolion Aberystwyth wedi eu geni yng Nghymru, a bod 31% o drigolion y dre yn Gymraeg.

A chymryd y byddai’r rhan fwyaf helaeth o’r siaradwyr Cymraeg hynny fod wedi eu geni yng Nghymru, gallwn ddweud bod 66% o drigolion Aberystwyth a aned yng Nghymru yn Gymraeg.

Mewn geiriau eraill: mae dau draean o drigolion cynhenid Aberystwyth yn Gymraeg.

Wrth gwrs, mae elfen o gyffredinoli i’r casgliad hwn am nad yw’r ystadegau fyth mor syml â hynny, yn enwedig wrth i boblogaeth symudol iawn o fyfyrwyr gymylu peth arnynt. Ond gwaetha’r modd, maent yn ddigonol fel canllaw.

Ni allai neb wadu taw arwyddocaol yw bod mwyafrif gweddol fawr o drigolion cynhenid Aberystwyth yn Gymraeg. Nid ffigur bychan yw 66%. Dyna 3,950 o siaradwyr.

Ar sail hynny, onid yw’n ddigon rhesymol disgwyl bod y Gymraeg â lle blaenllaw yn y dre, a’i bod hi’n weladwy iawn, yn hyglyw iawn ac yn bresennol ym mhob man yno? Buan iawn y caiff yr ymwelydd sy’n credu felly ei siomi.

Agwedd gul

Mae’n amlwg iawn nad yw’r mwyafrif Saesneg a Seisnig yn Aberystwyth – sy’n tyfu o hyd – yn cael ei gymathu i’r gymuned ieithyddol Gymraeg. Yn wir, o’r cyfeiriad croes y daw’r disgwyl i gymathu.

Dyna sydd yn esgor ar sefyllfa lle gall rhywun ddweud wrth siaradwr neu siaradwraig Gymraeg yn y dre: “speak English or get out”.

Yr wyf fi wedi bod yn dyst droeon i’r agwedd hon yn Aberystwyth, sef yr agwedd Brydeinllyd ryddfrydol sydd yn prisio buddiannau’r mwyafrif Saesneg a Seisnig uwch eiddo’r lleiafrif Cymreig a Chymraeg― hyd yn oed yng Nghymru. Ond ysywaeth, gall fod yn ideoleg gudd a llechwraidd.

Dyma’r agwedd sydd yn brigo i’r wyneb pan ddwedo rhieni’r dre ei fod yn angenrheidiol astudio’r gwyddorau trwy gyfrwng y Saesneg er mwyn gallu ymgodi yn y byd, neu pan ddwedo rhywrai ei fod yn angenrheidiol gyhoeddi newyddion pwysig yn Saesneg fel y bo pawb yn ei glywed.

Yn bur aml yr wyf wedi clywed pobl yn Aberystwyth yn dweud taw cul fyddai cynnal digwyddiad yn uniaith Gymraeg, neu ddisgwyl i unrhyw un sydd yn penderfynu symud i’r dref ddysgu’r iaith o gwbl.

Halen i’r briw yw nodi bod nifer o Gymry yn dweud y fath bethau.

Gormes y lleiafrif

Ond ffug ddeuoliaeth yw Saesneg = eangfrydig, cynhwysol a buddiol : Cymraeg = culfrydig, anghynhwysol ac anfuddiol.

Mae breinio’r gymuned ieithyddol Saesneg ar draul y gymuned ieithyddol Gymraeg yn gwbl fympwyol, ac yn waeth na hynny, yn ormes ar leiafrif sydd eisoes wedi dioddef yn ddybryd dros y canrifoedd.

Mae disgwyl i fewnfudwyr i Loegr ddysgu’r Saesneg, ac fe dderbynnir hynny yn unfryd unfarn, am mai dyna yw iaith frodorol y wlad, iaith hanes a llên y wlad, ac yn y blaen.

Pam felly na ddywedir y dylai mewnfudwyr i Aberystwyth ddysgu’r Gymraeg, am mai hi yw iaith frodorol y dref, iaith hanes a llên y wlad…

Efallai y bydd y sgwrs hon yn dangos mor wyrdröedig yw’r sefyllfa. Bûm yn ymddiddan â sosialydd rhonc o gylch Aberystwyth a oedd yn taranu am hawl lleiafrifoedd gorthrymedig y byd i’w priod ieithoedd. Holais fel hyn:

“Onid oes gan drigolion Palesteina yr hawl i siarad Arabeg, am taw dyna yw eu priod iaith nhw?”

“Wrth gwrs!”

“Ac felly, ni ddylen nhw orfod defnyddio’r Hebraeg am fod gwladwriaeth Israel neu setlwyr o ba le bynnag yn dymuno iddynt wneud felly?”

“Ie!”

“Felly a oes gan bobl ardaloedd Cymraeg Cymru yr hawl i siarad Cymraeg pryd bynnag y dymunant, am mai dyna yw eu priod iaith nhw?”

(Yn gwgu’n betrus): “Yyyyyym… ie”

“Ac o’r herwydd, ni ddylen nhw orfod troi i’r Saesneg oherwydd bod siaradwyr Saesneg yn dymuno iddynt wneud felly…?”

(Mewn penbleth lwyr): “Yyyyyym… Yyyyyym…”

Mympwyol yn wir!

Mwy o hyder

A dychwelyd at yr helynt diweddar yn Starbucks Aberystwyth. Pan fo stigma yn erbyn cerdded i mewn i siop yn Aberystwyth a chyfarch y staff yn Gymraeg oherwydd yr agweddau gwyrdröedig hyn, a phan na chlywir rhyw lawer o’r Gymraeg ym mannau cyhoeddus, does ryfedd fod rhagfarn wrth-Gymraeg yn eplesu.

Yr unig ffordd i wrthdroi’r fath sefyllfa yw defnyddio’r iaith yn agored o hyd a chydag hyder. Sefyllfa od iawn yw bod disgwyl i’r bobl gynhenid alltudio eu hiaith nhw yn eu gwlad nhw eu hunain.

Bobl Aberystwyth, defnyddiwch y Gymraeg yn llawen! Nid anochel yw sefyllfa unrhyw iaith, ac yn sicr, ni ellir cyfiawnhau derbyn unieithrwydd Saesneg ond gwrthod unieithrwydd Cymraeg.

Hynny yw, ni wadaf ddwyieithrwydd. Pleser enfawr yw mwynhau dwy iaith.

Yn hytrach, sôn yr wyf am y gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn unig pryd y dymunir, yn union fel y disgwylir defnyddio’r Saesneg yn unig pryd y dymunir.

Siom o’r radd flaenaf fyddai i’r iaith ddiraddio’n bellach yn un o drefi mwyaf cyfareddol Cymru, a lle hollol ddihefelydd yn y byd mawr crwn.

Mae Morgan Owen yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.