Fe fydd Banc Lloyds yn diswyddo 625 o bobol ac yn symud y gwaith i’r India, yn ôl undeb llafur.
Mae Undeb Unite wedi dweud y bydd y toriadau yn effeithio ar sawl adran yn y banc, gan gynnwys materion ariannol y cwsmer, a bancio masnachol a chyfreithiol, gyda swyddi’n mynd yn Llundain, Brighton, Caerloyw, Leeds, Halifax a Wolverhampton.
Fe gyhoeddodd y banc nôl yn 2014 y byddai 9,000 o swyddi’n cael eu colli, ac mae’r rhai diweddaraf i fynd yn rhan o’r cynlluniau hynny.
Yn ôl Unite mae disgwyl i 80 o’r swyddi gael eu hadleoli i’r India.
‘Toriadau didostur’
“Mae’n ddychrynllyd fod Cwmni Lloyds yn parhau i symud ei gwaith technoleg gwybodaeth dramor, yn hynny yn enw arbed costau,” meddai swyddog rhanbarthol yr Undeb, John Morgan-Evans.
“Mae hyn yn syml yn golygu fod y banc eisiau talu gweithiwr IT yn India lai am yr un gwaith sy’n cael ei wneud ym Mhrydain. Mae’r ras hon i’r gwaelod yn niweidio ein haelodau ac yn cael effaith ar y cwsmeriaid.”
“Mae’r Undeb wedi gwneud hi’n glir nad yw ‘effeithlonrwydd’ yn golygu torri swyddi wrth ddisgwyl i’r gwaith gael ei wneud gan lai o weithwyr.
“Mae’r banc yn anghofio fod gan y toriadau didostur hyn gost ddynol. Mae oriau ychwanegol di-dâl a’r straen sy’n gysylltiedig â’r gwaith yn barod yn gyffredin iawn ledled y banc, ac fe fydd hyn yn cyrraedd pwynt o argyfwng os yw Lloyds am barhau i ddefnyddio’r fwyell.”
Diswyddo yw’r ‘cam olaf’
Dywedodd Lloyds y byddant yn creu 195 o swyddi newydd yn yr ardaloedd sy’n cael eu heffeithio.
“Mae Cwmni Lloyds Banking Group wedi ymrwymo i weithio gyda gweithwyr mewn modd sensitif a gofalus. Mae’r holl weithwyr sydd wedi cael eu heffeithio wedi cael eu briffio gan eu rheolwyr lein,” meddai’r cwmni mewn datganiad.
“Mae’r Grŵp wastad wedi credu mewn adleoli pobol ble bynnag sy’n bosib er mwyn adfer yr arbenigedd a’r wybodaeth o fewn y grŵp.
“Ble mae’n bosib i weithwyr adael y cwmni, fe fyddwn ni’n edrych i gyflawni hynny trwy gynnig diswyddiadau gwirfoddol. Fe fydd diswyddo gorfodol bob tro yn cael ei weld fel y cam olaf.”