Wrth siarad â golwg360, mae Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur yn San Steffan, wedi amddiffyn penderfyniad ei phlaid i barasiwtio ymgeisydd i mewn i Gymru o Loegr.

Daeth cadarnhad yn ddiweddar mai Alex Barros-Curtis, cyn-Gyfarwyddwr Cyfreithiol yr arweinydd Syr Keir Starmer, fydd yn sefyll dros Lafur yng Ngorllewin Caerdydd yn dilyn ymddeoliad Kevin Brennan.

Hefyd, bydd Torsten Bell o’r Resolution Foundation yn ceisio cadw sedd Gorllewin Abertawe i Lafur, yn dilyn diarddel Geraint Davies yn sgil ei ymddygiad rhywiol honedig.

Mae Llafur wedi wynebu cryn feirniadaeth ynghylch eu penderfyniadau yn y ddwy etholaeth, ond mae Jo Stevens yn mynnu mai prinder amser ar drothwy’r etholiad cyffredinol brys oedd yn gyfrifol am dynnu ymgeiswyr i mewn o Loegr.

“Ym mhob etholiad, bydd aelodau seneddol presennol yn dewis ei bod hi’n bryd iddyn nhw gamu o’r neilltu,” meddai wrth golwg360.

“Dyna sydd wedi digwydd gyda Kevin Brennan, sydd wedi cynrychioli Gorllewin Caerdydd yn ardderchog am gymaint o flynyddoedd.

“Oherwydd bod y Prif Weinidog [Rishi Sunak] wedi dewis galw’r hyn sydd, yn y bôn, yn etholiad annisgwyl yn nhermau amseru, mae’n rhaid cael ymgeiswyr yn eu lle.

“Mae Alex yn ymgeisydd gwych.

“Mae e’n Gymro, cafodd ei eni a’i fagu yng Nghymru, ac mae e’n deall Cymru.

“Dw i’n gobeithio y bydd pleidleiswyr Gorllewin Caerdydd yn rhoi mwyafrif enfawr iddo fe ar Orffennaf 4.”

“Y Blaid Lafur yn gwneud niwed i ddemocratiaeth Cymru” drwy barasiwtio ymgeiswyr i mewn

Elin Wyn Owen

“Mae’n bwysig bod y Blaid Lafur yn dysgu nad ydych chi’n cymryd cymunedau Cymru yn ganiataol”

Gwleidyddion Plaid Cymru’n trafod helynt Llafur yn etholaeth Gorllewin Abertawe

Mae Geraint Davies wedi cadarnhau na fydd yn sefyll eto, ac mae adroddiadau bod Llafur yn barod i gyflwyno ymgeisydd o Lundain