Bydd sgarff enfawr sydd wedi’i gweu gan bobol leol yn cael ei gosod o amgylch safle hen gastell y Bala er mwyn nodi pen-blwydd y dref yn 700 oed.
Ym mis Mehefin 1324, cafodd siarter frenhinol ei llofnodi gan roi statws bwrdeistref rydd i’r Bala.
Mae’r dathliad yn rhan o’r ymgyrch ‘Y Bala 700 – Yma o Hyd’, i ddathlu hanes cyfoethog y dref a’i llwyddiannau heddiw.
Mae’r grŵp gwirfoddol, gyda chyllid Cyngor Tref y Bala, eisoes wedi bod yn harddu’r dref gyda blodau a basgedi crog, wedi creu taith hanes rhithiol, wedi trefnu Parkrun mewn gwisg ffansi, ac wedi cynhyrchu sticeri a baneri a chynnal boreau coffi.
Ac fel teyrnged i’r diwydiant gwlân, oedd yn hynod o bwysig i’r ardal, maen nhw wedi penderfynu dathlu’r grefft o weu drwy greu degau o sgarffiau.
Fe fydd y sgarffiau hyn yn creu un sgarff 250 metr o hyd fydd yn cael ei gosod o amgylch Tomen y Bala heddiw (dydd Gwener, Mehefin 14).
“Pontio cenedlaethau”
Dywed Lowri Rees Roberts, aelod o bwyllgor y Bala 700 – Yma o Hyd, fod Clwb Gweu’r Bala a Chlwb Gweu Llanuwchllyn, ynghyd â nifer o unigolion yn yr ardal, wedi bod yn brysur gyda’u gweill yn gweu degau o sgarffiau dros y chwe mis diwethaf.
“Mi fydd plant o Ysgol Godre’r Berwyn yn ymuno gyda ni ddydd Gwener i ddal y sgarff o amgylch y domen a hefyd o amgylch cae rygbi’r dref, cyn mwynhau paned a bisged fel rhan o’r dathliadau,” meddai.
“Bwriad y gweithgaredd yw pontio’r cenedlaethau yma yn y Bala a braf fydd gweld y disgyblion ifanc a’r trigolion yn dod at ei gilydd i fwynhau dathliadau lliwgar Bala 700.”
“Mae’r prosiect wedi bod yn llawer o waith i’r rhai sy’n gweu ond rydyn ni wedi cael llawer o gefnogaeth gan bobol leol sydd wedi bod yn cyfrannu gwlân a sgarffiau gorffenedig i’r trefnwyr,” meddai Kiera Davies, un sydd wedi bod yn helpu i gasglu’r sgarffiau,
Bydd y sgarffiau’n cael eu gadael yn yr awyr agored i bobol eu mwynhau dros yr haf cyn cael eu golchi a’u gwahanu a’u rhoi i elusennau ar gyfer y digartref.
Bydd gweithgareddau Y Bala 700 – Yma o Hyd yn parhau drwy gydol y flwyddyn, gyda dathliadau hanesyddol, gorymdaith lusernau, cyngherddau a mwy ar y gweill.
Yn ogystal mae arddangosfa newydd ar hanes y dref wedi ei threfnu gan gymdeithas Cantref, ac i’w gweld yng Nghanolfan y Plase tan Orffennaf 12.