Mae erlynydd Sbaen yn galw ar y Goruchaf Lys i gefnogi’r Bil Amnest yn achos arweinwyr annibyniaeth Catalwnia.

Yn eu plith mae’r cyn-ddirprwy arlywydd Oriol Junqueras a’r gweinidog Jordi Turull.

Mae swyddfa’r erlynydd Álvaro García Orti​z yn annog erlynwyr y Goruchaf Lys i gefnogi’r Bil Amnest yn achos arweinwyr annibyniaeth.

Mae’r swyddfa eisoes wedi rhoi gwybod fod y cyhuddiadau roedd yr arweinwyr yn eu hwynebu bellach yn destun pardwn, ar ôl i’r Gyngres gymeradwyo’r gyfraith sydd wedi’i chyhoeddi yn Gazette Swyddogol Sbaen.

Daw hyn yn dilyn cytundeb rhwng y Sosialwyr a’r pleidiau annibyniaeth yn siambr isaf Sbaen.