Mae’r rhaglen Eco-Ysgolion yn 30 oed eleni, ac mae cannoedd o filoedd o ddisgyblion yng Nghymru’n gweithredu ar newid hinsawdd bob blwyddyn yn ei sgil.

Dros y byd, mae’r cynllun yn dod â miliynau o blant mewn 73 o wledydd ynghyd i weithredu ar newid hinsawdd.

Yng Nghymru, mae 90% o ysgolion yn cymryd rhan yn y cynllun, sy’n cyfateb i dros 400,000 o ddisgyblion – un o’r cyfraddau uchaf yn y byd.

Mae’r rhaglen yn grymuso ac yn ysbrydoli pobol ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’u cymuned ehangach.

‘Brwdfrydedd gwirioneddol’

Ar daith ddiweddar, bu disgyblion Ysgol Gynradd Betws ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy’n un o’r miloedd o Eco-Ysgolion yng Nghymru, yn cyfarfod â Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Cymru.

“Roeddwn yn falch iawn o groesawu disgyblion Ysgol Gynradd Betws,” meddai.

“Dywedodd y disgyblion wrthyf sut maen nhw’n gwerthfawrogi’r gofod y tu allan i’w hysgol a pha mor bwysig mae hwnnw i fywyd gwyllt, addysg a chwarae.

“Cefais glywed hefyd sut maen nhw’n gweithio’n galed i gyflawni eu pedwaredd wobr y Faner Werdd – a elwir hefyd yn wobr eco platinwm – ac rwy’n dymuno’r gorau iddynt wrth iddynt fynd amdani.

“Mae’n amlwg bod gan y disgyblion hyn, fel cynifer o bobl ifanc eraill ledled Cymru, frwdfrydedd gwirioneddol dros ailgylchu, diogelu natur a’r amgylchedd.”

‘Gwneud holl ysgolion Cymru’n eco-ysgolion yn uchelgais’

Dywed Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, fod cefnogi disgyblion i fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus “wrth wraidd” y cwricwlwm newydd.

“Dros y 30 mlynedd diwethaf mae eco-ysgolion wedi ein helpu i gefnogi’r uchelgais hwn a rhoi mwy o wybodaeth i ddysgwyr am faterion amgylcheddol a sut y gallant helpu i ofalu am ein planed,” meddai.

“Mae gan Gymru uchelgeisiau uchel i fwy o bobol ifanc wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol yn eu hysgol a’u cymunedau ehangach.

“Byddwn yn parhau i hyrwyddo eco-ysgolion er mwyn ceisio cyflawni carreg filltir arall sef bod 100% o’n hysgolion yn eco-ysgolion.”