Mae pobol yng Nghymru, ac yn Lloegr, yn bwrw eu pleidlais yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd heddiw (dydd Iau, Mai 2).

Mae pedwar ymgeisydd ym mhob ardal, sef Heddlu’r De, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu’r Gogledd a Heddlu Gwent.

Mae’r ymgeiswyr yn cynrychioli un o bedair plaid – y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol neu’r Blaid Lafur.

Mae’r Comisiynwyr ym mhob ardal yn gyfrifol am flaenoriaethau a chyllidebau’r llu, a nhw hefyd sy’n penodi ac yn diswyddo Prif Gwnstabliaid.

Yn wahanol i’r arfer eleni, bydd yn rhaid dangos cerdyn adnabod ffotograffig er mwyn pleidleisio – penderfyniad sydd wedi bod yn ddadleuol ers ei gyhoeddi.

Bydd gorsafoedd pleidleisio’n cau am 10 o’r gloch heno, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi fory (dydd Gwener, Mai 3).

Dod i adnabod ymgeiswyr etholiad Comisiynydd Heddlu’r De

Byd ymgeiswyr o bob un o’r pedair prif blaid wleidyddol yn sefyll ym mhedwar llu heddlu Cymru ar Fai 2

Dod i adnabod ymgeiswyr etholiad Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys

Elin Wyn Owen

Mae’r prif bleidiau i gyd wedi’u cynrychioli yn y ras

Dod i adnabod ymgeiswyr etholiad Comisiynydd Heddlu’r Gogledd

Cadi Dafydd

Byd ymgeiswyr o bob un o’r pedair prif blaid wleidyddol yn sefyll ym mhedwar llu heddlu Cymru ar Fai 2