Mae Cymru’n arwain y ffordd gyda chynllun cymorth ar gyfer ataliad ar y galon.

Mae Achub Bywyd Cymru wedi penodi chwe chydlynydd cymunedol – y rhai cyntaf yng ngwledydd Prydain – i drawsnewid triniaeth CPR a mynediad at ddiffibrilwyr.

Mae data’n dangos bod y gyfradd oroesi yng Nghymru ar ôl cael ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yn parhau i fod yn is na 5% – o’i gymharu â 10% drwy’r Deyrnas Unedig.

Y gobaith yw y bydd y cydlynwyr yn helpu mwy o bobol i oroesi pe baen nhw’n cael ataliad.

Mae’r pêl-droediwr Tom Lockyer ac Alun Wyn Jones, cyn-gapten tîm rygbi Cymru, ymhlith y rhai sydd naill ai wedi cael ataliad ar y galon neu sydd â chyflwr all arwain at ataliad.

Gwaith y cydlynwyr

Mae cyfrifoldebau’r cydlynwyr yn cynnwys gweithio gyda chymunedau, mudiadau’r trydydd sector ac ymddiriedolaethau elusennol i addysgu am ymwybyddiaeth a hyfforddiant Cymorth Bywyd Sylfaenol.

Cyfrifoldeb arall yw’r pedwar cysylltiad rhwng cadwyn oroesi ataliad y galon, sef:

  • cydnabod yn gynnar a galw am gymorth
  • CPR cynnar
  • diffibrilio cynnar
  • gofal ar ôl dadebru

Mae’r cydlynwyr hefyd yn darparu cyngor a chymorth ymarferol ynghylch Diffibrilwyr Mynediad Cyhoeddus, ac maen nhw’n gweithio gyda chymunedau i gefnogi’r gwaith o gofrestru a chynnal a chadw pob diffibriliwr ar rwydwaith The Circuit.

Mae hyn yn hanfodol er mwyn helpu i sicrhau bod pobol sy’n ateb galwadau 999 yn gallu rhoi gwybod am ddiffibrilwyr cyfagos mewn sefyllfaoedd hollbwysig.

Os nad yw diffibriliwr wedi’i gofrestru ar The Circuit, fydd e ddim yn cael ei gydnabod gan y Gwasanaeth Ambiwlans.

Pwysigrwydd ymateb cynnar

Mae ymateb cynnar i ataliad yn hollbwysig, gyda phob munud sy’n mynd heibio heb CPR a diffibrilio yn lleihau’r tebygolrwydd gan 10% y bydd y claf yn goroesi.

Mae’r cydlynwyr wedi ymrwymo i feithrin hyder, fel y bydd pobol yn gweithredu’n gyflym pe baen nhw’n gweld rhywun yn cael ataliad y galon.

Byddan nhw’n gweithredu drwy roi cynnig ar CPR, cael arweiniad gan bobol sy’n ateb galwadau, ac yn cael gafael ar ddiffibriliwr.

Mae pob cydlynydd yn gyfrifol am ardal ddaearyddol yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod cymorth ar gael, a hynny hyd yn oed yn y lleoliadau mwyaf gwledig.

Mae gan bob un o’r chwe chydlynydd brofiad o weithio ym maes gofal iechyd, gan gynnwys derbyn galwadau 999, ymarferwyr dadebru a pharafeddygon profiadol.

Y cydlynwyr sydd wedi’u penodi yw Siân Davis (arweinydd tîm y de), Chris West (arweinydd tîm y gogledd), Tomos Hughes (gogledd), Chris Joyce (de-ddwyrain), Haden Tipples (canolbarth de Cymru) a Marc Gower (de-orllewin).

Effeithio ar bob oedran

Yn ôl Haden Tipples, gall ataliad ar y galon effeithio ar bobol o bob oedran.

“Mae llawer o bobl yn credu mai dim ond dynion o fewn grŵp oedran penodol sy’n cael eu heffeithio gan ataliad y galon, ond dydy hyn ddim yn wir,” meddai.

“Dw i’n gwybod yn uniongyrchol nad ydy hynny’n wir ar ôl marwolaeth drasig fy nith, oedd yn ddeunaw mis oed ar y pryd.

“Gall ataliad y galon ddigwydd i bobol o bob oed.

“Gall ddigwydd yn unrhyw le ac ar unrhyw adeg, beth bynnag fo’u statws iechyd.

“Dyma pam mae ein gwaith fel cydlynwyr cymunedol yn bwysig.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod cyfle cyfartal i bawb ar hyd a lled Cymru gael goroesi.”

‘Darparu gwell cefnogaeth i bob cymuned’

“Rydyn ni’n falch iawn o fod y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i benodi cydlynwyr cymunedol CPR a diffibrilio,” meddai Julie Starling, Rheolwr y Cydlynwyr Cymunedol a’r Rhaglen Glinigol ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty yng Nghymru.

“Mae wedi bod yn nod hirdymor i ddarparu gwell cefnogaeth i bob cymuned, a hynny gyda’r nod o gynyddu cyfraddau goroesi ataliad y galon yng Nghymru.

“Mae ein cydlynwyr eisoes allan yn eu cymunedau lleol ac wedi ymrwymo i helpu i addysgu a chefnogi pobol gyda’u sgiliau CPR a diffibrilio.

“Mae bod yn dyst i ataliad y galon yn brofiad brawychus, ond rydyn ni am i gymunedau yng Nghymru deimlo mor barod â phosibl os ydyn nhw yn y sefyllfa honno a bod ganddyn nhw yr hyder i helpu.

“Po fwyaf o bobol sy’n helpu, a pho fwyaf o gymunedau sydd â’r cyfleusterau, yr uchaf fydd cyfraddau goroesi ataliad y galon.”

Achub Bywydau Cymru

Achub Bywydau Cymru yw’r sefydliad blaenllaw sy’n ymroddedig i wella cyfraddau goroesi ataliad y galon.

Mae’r sefydliad hwn yn eiriol dros CPR a diffibrilio mewn cymunedau, ac maen nhw’n annog unigolion i ddysgu neu loywi eu sgiliau achub bywydau.

Nod ymgyrch ‘Cofiwch, Mae Help Wrth Law’ y sefydliad, sy’n cael ei chefnogi gan y sêr chwaraeon Shane Williams ac Aaron Ramsey, yw rhoi’r hyder i bobol weithredu’n gyflym pe bai rhywun yn cael ataliad ar y galon.


Cyngor a gwybodaeth

Gallwch gysylltu â’ch cydlynydd cymunedol drwy e-bostio: achubbywydcymru@wales.nhs.uk neu SaveALifeCymru@wales.nhs.uk.

Pe bai rhywun yn cael ataliad y galon, ffoniwch 999. Bydd y derbyniwr galwadau yn dweud wrthych beth i’w wneud, eich arwain i roi CPR, yn eich cyfeirio at y diffibriliwr cofrestredig agosaf, ac yn anfon criw ambiwlans atoch yn syth.

I wybod mwy am hyfforddiant CPR a diffibrilio, ewch i https://gweithrediaeth.gig.cymru/ABC

Gallwch ddysgu CPR mewn 15 munud am ddim RevivR.

 

Alun Wyn Jones wedi cael llawdriniaeth ar ei galon

Cafodd e ddiagnosis o’r un cyflwr â Tom Lockyer ar ôl symud i Toulon

Tom Lockyer adref o’r ysbyty ar ôl ataliad ar y galon

Mae amddiffynnwr canol Cymru a Luton wedi cael triniaeth i osod diffibriliwr yn ei galon