Bydd newid o broses bapur i system ddigidol ar gyfer canlyniadau profion gwaed yn helpu i sicrhau llai o gamgymeriadau, yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae nifer o wasanaethau a byrddau iechyd yn defnyddio Ceisiadau Profion Electronig fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i foderneiddio gwasanaethau patholeg.

Mae’r broses yn golygu nad oes angen ffurflen bapur, ac mae’n caniatáu gwneud cais am brofion patholeg trwy Borth Clinigol Cymru.

Mae hyn yn rhoi mynediad at gofnod iechyd digidol Cymru gyfan i staff.

Yn ôl y bwrdd iechyd, mae’r manteision yn cynnwys gwell diogelwch cleifion trwy ddileu gwallau llawysgrifen annarllenadwy, ac yn cael gwared ar yr oedi sy’n dod gydag aros am ffurflenni papur.

Mae hefyd yn caniatáu i’r clinigwr weld eu canlyniadau blaenorol cyn archebu’r prawf nesaf, ac felly’n lleihau dyblygu profion yn ddiangen.

Gwasanaeth pediatrig y bwrdd iechyd fydd nesaf i gyflwyno’r newid yn llawn, yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot cychwynnol.

‘O fudd i gleifion a chlinigwyr’

Dywed yr Ymgynghorydd Pediatrig Pramodh Vallabhaneni, sy’n arwain y gwaith o integreiddio, fod y newid wedi bod yn “gadarnhaol”.

“Mae cleifion a staff ar eu hennill, gan fod ganddo gymaint o fanteision,” meddai.

“Rydym wedi croesawu Ceisiadau Profion Electronig gan ei fod yn rhywbeth rydym yn teimlo sydd o fudd i gleifion a chlinigwyr.”

Ychwanega’r Gwyddonydd Clinigol Angharad Shore ei bod hi’n bwysig symud tuag at system ddigidol.

“Mae gan Ceisiadau Profion Electronig fantais sylweddol o well ansawdd data ar gyfer samplau a dderbynnir gan y labordy i’w dadansoddi, sydd yn ei dro yn arwain at lai o gamgymeriadau, gwell rheolaeth glinigol ac yn y pen draw, gwell diogelwch cleifion,” meddai.

Ym Mae Abertawe, mae 77% o’r holl geisiadau am ofal eilaidd ac 89% o geisiadau am ofal sylfaenol bellach yn cael eu gwneud trwy Geisiadau Profion Electronig.

Yn ôl David Wade, y Swyddog Gweithredu a Chymorth Gwasanaethau Digidol, Ceisiadau Profion Electronig yw’r dull mwyaf effeithlon, ac mae’n fwy diogel na’r opsiwn papur.

“Mae’r ymagwedd gydweithredol hon at newid wedi esgor ar ganlyniadau cadarnhaol, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn bwriadu ei ddatblygu ymhellach ar draws y bwrdd iechyd,” meddai.