Bu Gary Pritchard yn optegydd a sylwebydd pêl-droed cyn dod yn gynghorydd sir ar y Fam Ynys…

Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn wyneb newydd yn gapten y llong.

Wedi i Llinos Medi gael ei hethol yn Aelod Seneddol yr ynys ym mis Gorffennaf, ildiodd yr awenau fel Arweinydd Cyngor Môn.

Ac mae’r dyn sy’n dod i lenwi ei hesgidiau hi yn foi oedd yn arfer gweithio i raglen Sgorio ac sy’n chwythu’r tiwba ym mand pres Biwmares yn y dref ble mae’n byw.