Rwyf wedi penderfynu dod oddi ar Trydar. Neu ‘X’ fel mae o’n cael ei alw nawr. Roeddwn i bron iawn â gadel yn 2023, ond roedd y teimlad fy mod i’n gorfod bod arno “ar gyfer yr yrfa” yn rhy gryf, yr angen i fod arno er mwyn cadw i fyny gyda’r byd theatr… ac i fod yn onest, y byd yn ei gyfanrwydd.