Mae busnesau yng Ngheredigion wedi croesawu penderfyniad y Cyngor Sir i gadw newidiadau traffig gafodd eu cyflwyno yn ystod y pandemig.

Fe wnaeth Cyngor Sir Ceredigion gyflwyno systemau unffordd a newidiadau i ffyrdd yng nghanol pedair o drefi’r sir yn 2020, ac maen nhw wedi penderfynu y bydd y newidiadau’n rhai parhaol.

Cafodd parthau diogel eu cyflwyno am y tro cyntaf yn Aberystwyth, Aberaeron, Ceinewydd ac Aberteifi fis Gorffennaf 2020, oedd yn golygu parcio cyfyngedig, systemau unffordd, a lledu’r palmant mewn rhai llefydd.

Bu strydoedd ar gau i geir yn ystod y dydd yng Ngheredigion yn ystod y cyfnodau clo hefyd, ac roedd y cam yn un dadleuol ar y pryd.

Y llynedd, ailgyflwynodd Cyngor Sir Ceredigion rai o elfennau’r parthau diogel dros dro, cyn cynnal ymgynghoriad ar wneud y newidiadau’n rhai parhaol.

‘Llwyddiant”

Yn Aberystwyth, bydd palmentydd lletach yn cael eu cadw yn Heol y Wig, Ffordd y Môr a’r Ffynnon Haearn.

Bydd Heol y Wig, Stryd y Baddon a Ffordd y Môr yn parhau fel strydoedd unffordd hefyd, a bydd rhywfaint o newidiadau i fannau parcio anabl ar rai o’r strydoedd.

Yn ôl perchennog caffi’r Caban, maen nhw’n hapus efo’r newidiadau parhaol yn Heol y Wig.

“Mae’r system un ffordd wedi bod yn llwyddiant,” meddai Nathan Evans wrth golwg360.

“Mae lledu’r palmant wedi bod yn hollbwysig o ran darparu lle i fwy o bobol ar Heol y Wig.

“Rydym yn hapus iawn gyda’r ffordd y bu i’r Cyngor ymateb yn ystod Covid.

“Dydyn ni ddim am weld unrhyw newidiadau o gwbl.

“Rydyn ni’n gwybod fod pobol mo’yn i bethau ddychwelyd i sut oedden nhw cynt, ond dydyn nhw [y Cyngor Sir] ddim mo’yn hynny.

“Rydyn ni’n ei weld fel cam cadarnhaol iawn.”

‘Angen ystyried parcio’

Ychwanega Rebecca Barratt, perchennog Driftwood Designs ar Heol Wig, eu bod nhw’n hapus efo’r newidiadau hefyd, a bod gan y cam y potensial i fod yn dda i fusnes.

“Roedden ni’n gweld fod y parth diogel yn gadarnhaol ac roedden ni’n mwynhau’r teimlad oedd yn ei roi i’r dref a siopwyr, yn enwedig ar Heol y Wig,” meddai cadeirydd Clwb Busnes Aberystwyth, wrth golwg360.

“Bydd yn dda i fusnes cyn belled â’u bod nhw’n ystyried materion eraill fel parcio. Mae parcio yn broblem fawr yn y dref.

“Pe bai hynny’n cael ei ystyried, yna gallai fod yn newid cadarnhaol.”

Cafodd y newidiadau i barcio ar strydoedd yn Aberystwyth, Aberteifi, Aberaeron a Cheinewydd eu gwneud yn barhaol ar Dachwedd 20, a bydd y systemau unffordd yn y pedair tref yn dod yn barhaol ar Ragfyr 20 wedi i’r Cyngor roi’r cyfarwyddyd heddiw (dydd Llun, Tachwedd 27).

Cynghorydd yn beirniadu’r syniad o gadw ardaloedd diogel Ceredigion yn barhaol

Gwern ab Arwel

Mae rhai o’r cyngor wedi codi’r syniad o gadw’r cynlluniau mewn lle yn dilyn y pandemig

Treialu mesurau traffig a pharcio yn nhrefi arfordirol Ceredigion

Gwern ab Arwel

Roedd rhai o’r mesurau hyn eisoes wedi bod mewn grym yn ystod y pandemig er mwyn sicrhau diogelwch trigolion ac ymwelwyr

Ymateb cymysg i gau strydoedd ac ail-gyflwyno ‘Parthau Diogel’ yn Aberystwyth

“Teimlo fel bod gan y cyngor vendetta yn erbyn fy musnes,” meddai perchennog garej