Mae angen ymgyrch er mwyn hyrwyddo rhinweddau addysg Gymraeg, yn ôl cynghorwyr.
Mae hyn o ganlyniad i newidiadau disgwyliedig i ddynodiad Ysgol Bro Caereinion, o fod yn ysgol dwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg – fel bod rhieni a’r gymuned ehangach yn cefnogi’r cam.
Yr wythnos ddiwethaf, daeth i’r amlwg fod Cyngor Sir Powys eisiau symud Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion ymhellach ar hyd y “continwwm iaith”, ac iddi ddod yn ysgol Gymraeg.
Hyrwyddo addysg Gymraeg
Edrychodd aelodau o Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau Cyngor Sir Powys ar y materion mewn cyfarfod ddydd Mercher (Medi 20).
“A gafodd ystyriaeth ei rhoi i ymgyrch ymwybyddiaeth i arddangos manteision addysg ddwyieithog i rieni?” gofynnodd Gareth D. Jones, cynghorydd sir annibynnol dros Lanfair Caereinion a Bro Caereinion.
“A oes unrhyw bosibilrwydd o gael dechrau ar ymgyrch, lle mae cyn-ddisgyblion o’r sir yn dangos sut mae’r iaith Gymraeg wedi bod o fudd iddyn nhw a’u gyrfaoedd, ac sy’n rywbeth y bydden nhw’n ei hargymell i bawb ym Mhowys?”
“Dw i wedi gofyn i swyddogion greu cynllun ymgysylltu a gweithgarwch o gwmpas Eisteddfod yr Urdd er mwyn hyrwyddo manteision addysg Gymraeg,” meddai’r Cynghorydd Peter Roberts, y Democrat Rhyddfrydol a deilydd y portffolio addysg.
Bydd Eisteddfod yr Urdd, yr ŵyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop yn ôl pob tebyg, yn cael ei chynnal ym Meifod ddiwedd mis Mai a dechrau mis Mehefin y flwyddyn nesaf.
Dywed y Cynghorydd Peter Roberts ei fod e eisiau “manteisio ar honno” pan gaiff ei chynnal.
“Wrth i hyn symud yn ei flaen, bydd angen digwyddiadau wedi’u targedu’n arbennig yn y dalgylch i helpu rhieni i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael, nid yn unig i’w plant ond iddyn nhw hefyd.”
Newid y ffordd y caiff addysg Gymraeg ei disgrifio
Mae’r Cynghorydd Bryn Davies o Blaid Cymru yn credu bod angen newid y ffordd o ddisgrifio addysg Gymraeg hefyd.
“Mae angen i ni roi’r gorau i ddefnyddio’r termau ‘cyfrwng Cymraeg’ a ‘chyfrwng Saesneg’ fel pe baen nhw’n bethau cydradd,” meddai.
“Mae pobol yn credu eich bod chi’n dod allan yn siarad Cymraeg o un ohonyn nhw, a Saesneg o’r llall.
“Dydy hi ddim felly o gwbl.
“Mae addysg ddwyieithog yn golygu bod eu Saesneg cystal â Saesneg neb arall, a bod eu hyder yr un mor uchel.”
Dwyieithrwydd
Eglurodd Emma Palmer, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol y Cyngor, fod yna dudalen ‘Taith at Ddwy Iaith‘.
“Mae gennym ni lawer o ddeunydd ar gael eisoes,” meddai.
“Yr hyn y gallwn ni ei wneud yw ymrwymo i hyrwyddo a rhedeg yr ymgyrch honno eto ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, a sicrhau ei bod ar gael i’r ysgol a rhieni.”
Mae disgwyl i’r Cabinet Democratiaid Rhyddfrydol/Llafur gytuno ar y cynnig yn eu cyfarfod ddydd Mawrth nesaf (Medi 26).