Mae Tafarn y Vale yn Nyffryn Aeron wedi cael buddsoddiad sylweddol o £300,000 trwy’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.
Agorodd y dafarn unwaith eto fel tafarn gymunedol fis Mai y llynedd, ar ôl i fenter leol lwyddo i godi dros £380,000 mewn cyfranddaliadau i brynu’r adeilad.
Bydd yr arian diweddaraf trwy’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn cael ei ddefnyddio er mwyn:
- gwella ansawdd yr adeilad presennol
- uwchraddio cyfleusterau’r toiledau a’r gegin
- gwneud yr adeilad yn fwy hygyrch
- defnyddio ynni’n fwy effeithlon
Yn ôl Iwan Thomas, un o gyfarwyddwyr y fenter, mae’r buddsoddiad yn “gam pwysig iawn yn siwrne’r Vale i fod yn dafarn sy’n ganolbwynt cymunedol yn Nyffryn Aeron”.
“Y gobaith yw y bydd y buddsoddiad yma yn caniatáu i ni ddechrau’r ddarpariaeth bwyd, ymestyn yr oriau agor a sicrhau bod yr adeilad yn hygyrch i bawb,” meddai.
Creu swyddi a rhoi hwb i’r economi leol
Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, wedi croesawu’r buddsoddiad.
“Rwy’n falch iawn bod prosiect cymunedol yng Ngheredigion wedi gallu manteisio ar y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol,” meddai.
“Mae Tafarn y Vale, fel nifer o dafarndai gwledig eraill, yn ased hollbwysig i’r gymuned.
“Mae’n creu swyddi ac yn hybu’r economi leol, yn ogystal â rhoi lle i bobol leol gymdeithasu a dod at ei gilydd.
“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gweithio mor galed ar y cais hwn.”