Daeth 30,000 o bobol ynghyd ym Madrid dros y penwythnos ar gyfer protest yn erbyn yr amnest ar gyfer arweinwyr ymgyrch annibyniaeth Catalwnia.

Dyna’r ffigwr swyddogol sydd wedi’i gyhoeddi gan yr heddlu, tra bo Plaid y Bobol fu’n ei drefnu yn dweud bod dwywaith y nifer yno.

Ar drothwy’r hyn allai fod yn bleidlais aflwyddiannus yr wythnos nesaf ar gais yr arweinydd ceidwadol i ddod yn Brif Weinidog Sbaen, dechreuodd Plaid y Bobol eu hymgyrch yn erbyn cytundeb posib rhwng y Sosialwyr a’r pleidiau sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia.

Gallai’r ymgyrch gynnwys ceisio dwyn achos yn erbyn yr arweinwyr oedd ynghlwm wrth y refferendwm yn 2017 a’r blynyddoedd cyn hynny.

Yn gyfnewid am yr amnest, byddai’r pleidiau o blaid annibyniaeth yn fodlon cefnogi ymgais Pedro Sánchez i ddod yn Brif Weinidog.

‘Puigdemont i’r carchar’

Yn ystod y brotest, fe fu’r dorf yn gweiddi ‘Puigdemont i’r carchar’, gan gyfeirio at Carles Puigdemont, arweinydd Catalwnia adeg refferendwm 2017 sy’n cael ei ystyried yn ‘anghyfansoddiadol’ gan Sbaen.

Ers hynny, bu Puigdemont yn byw’n alltud ym Mrwsel yng Ngwlad Belg, a hynny er mwyn atal yr awdurdodau yn Sbaen rhag dwyn achos yn ei erbyn.

Yn ôl beirniaid fel Núñez Feijóo, arweinydd Plaid y Bobol, mae amnest yn mynd yn groes i’r egwyddor fod Sbaen yn wlad “ddemocrataidd â rhyddid a chydraddoldeb”.

Dywed y byddai’n barod i amddiffyn y farn honno, hyd yn oed ar draul swydd y Prif Weinidog, a’i bod hi’n “ffals” fod angen cefnogaeth y pleidiau o blaid annibyniaeth er mwyn ffurfio llywodraeth yn Sbaen.

Mae dau o gyn-brif weinidogion Sbaen wedi beirniadu’r amnest hefyd, sef José María Aznar a Mariano Rajoy, ynghyd ag Isabel Díaz Ayuso, Maer Madrid.

Apêl gerbron Llys Hawliau Dynol Ewrop

Yn y cyfamser, mae Llys Hawliau Dynol Ewrop yn parhau i ddadansoddi apeliadau naw o arweinwyr ac ymgyrchwyr Catalwnia yn erbyn eu dedfrydau am eu rhan yn ymgyrch 2017.

Mae gan Lywodraeth Sbaen tan Ionawr 12 i ateb cwestiynau’r llys yn Strasbourg ynghylch torri hawliau dynol sylfaenol.

Cafodd yr arweinwyr bardwn yn 2021, ar ôl treulio hyd at bedair blynedd dan glo.

Bydd rôl y Goruchaf Lys dan y chwyddwydr, a’r ffordd maen nhw’n gweinyddu’r gosb ar gyfer achosion o annog gwrthryfel a chamddefnyddio arian cyhoeddus.

Dydy gofyn cwestiynau ddim yn golygu o reidrwydd bod y Llys Apêl wedi derbyn bod sail i’r apeliadau, ond yn hytrach yn ffordd o gasglu gwybodaeth er mwyn dod i benderfyniad.

Yn ôl y rhai gafodd eu carcharu, roedd eu cosb yn “anghymesur” ac yn groes i’w hawliau gwleidyddol.