Mae lle i gredu bod hyd at 10,000 o bobol wedi ymgynnull ar gyfer rali annibyniaeth AUOB Cymru a YesCymru ym Mangor ddoe (dydd Sadwrn, Medi 24), ac roedd golwg360 yno.

Y siaradwyr a’r perfformwyr oedd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru; yr actores Sera Cracroft; y band Fleur de Lys, gyda Karen Wynne yn llywio’r cyfan o’r llwyfan.

Dyma areithiau dau o’r siaradwyr – y canwr ac actor Bryn Fôn, a’r ymgyrchydd ac ieithydd Joseph Gnagbo, sy’n hanu o Affrica ond sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru ac wedi dysgu Cymraeg.

“Mae gen i freuddwyd,” meddai Bryn Fôn wrth gychwyn ei araith…


Ac mae Joseph Gnagbo yntau hefyd yn rhannu’r un freuddwyd, meddai…

(Fideos a lluniau: Lowri Larsen)


Draig 10 metr o hyd oedd yn arwain yr orymdaith. Cafodd ei chreu gan Small World Theatre – ond doedd y ddraig hon yn sicr ddim yn fach…


Ar ddiwedd yr orymdaith, aeth pawb draw i ymgynnull ym maes parcio Glanrafon ar gyfer y rali fawr.

 


Darllenwch ragor am y diwrnod

Dros 10,000 o bobol yn dilyn galwad y Ddraig dros annibyniaeth ym Mangor

Cafodd y chweched gorymdaith ei chynnal gan YesCymru ac AUOB Cymru heddiw (dydd Sadwrn, Medi 23)