Ddechrau’r mis, cafodd Seremoni Wobrwyo Cymru’n Blodeuo 2023 ei chynnal yn Neuadd y Dref yn Ninbych, a heidiodd unigolion a chymunedau o bob cwr o Gymru i fwynhau dathliadau Dinbych yn Blodeuo.

Eleni, enillodd Dinbych ddyfarniad aur, ynghyd â gwobr tref orau Cymru – a hynny am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Cafodd ei ddisgrifio gan y Cynghorydd Delyth Jones fel “llwyddiant ysgubol sy’n cydnabod oriau maith o gynllunio, plannu, gofal, peintio, twtio a glanhau dros wythnosau a misoedd yn flynyddol”.

Mae seremoni Cymru’n Blodeuo yn cael ei chynnal yn flynyddol o dan adain y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, gyda’r nod o annog balchder ac ysbryd cymunedol.

Ac yn groes i’r disgwyl, mae’r gystadleuaeth yn ymwneud â mwy na dim ond blodau, ac mae’r disgwyliad bod cydweithio’n digwydd yn elfen bwysig o’r gwaith.

Mae’r beirniaid yn ystyried ffactorau megis sbwriel, posteri anghyfreithlon, coedwigaeth a graffiti wrth feirniadu’r gwaith.

Balchder

Dywed cadeirydd y grŵp ei bod hi’n falch o’r cyfle i arddangos y dref.

“Croesawodd Dinbych yn Blodeuo’r cyfle i wahodd pobl a grwpiau o’r un meddylfryd o bob rhan o Gymru, i ddathlu blwyddyn arall o Gymru yn Blodeuo yma yn Ninbych hardd,” meddai Lyndsey Tasker.

“Rydym wedi cyffroi o rannu rhywfaint o’r hyn sydd gan ein tref ganoloesol hanesyddol i’w gynnig, ac yn falch o arddangos Dinbych.”


 

Tref Dinbych yn falch o gipio’r wobr fawr

 

Buodd Cegin Stryd y Dyffryn yn arlwyo ar gyfer y digwyddiad

 

Cafodd blodau lliwgar eu gosod ar hyd strydoedd y dref

 

Y seremoni wedi ei gosod allan yn barod ar gyfer y gwesteion

 

Roedd blodau ym mhob cornel o’r dref

 

Gwaith celf i hyrwyddo ‘Dinbych yn Blodeuo’

 

Dathlu’r llwyddiant!