Bydd Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy’n ailagor yn rhannol yfory (dydd Iau, Medi 7), yn dilyn pryderon am goncrid RAAC.

Math ysgafn o goncrid yw RAAC, a chafodd ei ddefnyddio yn y sector adeiladu er mwyn adeiladu ysgolion, colegau ac adeiladau eraill rhwng y 1950au a chanol y 1990au.

Daw’r cyhoeddiad gan Gyngor Ynys Môn, wrth iddyn nhw gadarnhau y bydd gwersi ar-lein yn parhau yn Ysgol Uwchradd Caergybi am y tro.

Bydd disgyblion Blwyddyn 7, 11 a 12 yn cael eu croesawu’n ôl i Ysgol David Hughes o fory, wrth i staff a disgyblion gael eu hadleoli i ardaloedd yn yr ysgol sydd heb gael eu heffeithio.

Mae gwaith adferol ychwanegol yn cael ei wneud gyda’r gobaith o sicrhau bod rhagor o ddisgyblion yn gallu dychwelyd i’r ysgol yn ddiogel, a chyn gynted â phosibl, meddai’r Cyngor.

Bydd gwersi’n cael eu cynnal ar-lein yn Ysgol Uwchradd Caergybi o fory (dydd Iau, Medi 7), a fydd disgyblion ddim yn cael dychwelyd i’r safle yr wythnos hon.

Y gobaith yw y bydd rhai yn cael dychwelyd yr wythnos nesaf, ar ôl cynnal arolygiadau arbenigol pellach ar y safle.

Mae rhieni a gwarcheidwaid Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi wedi cael gwybod am y datblygiadau hyn.

Bydd yr ysgolion yn parhau i’w diweddaru yn rheolaidd, meddai’r Cyngor.

‘Diogelwch yw’r prif flaenoriaeth’

“Ein prif flaenoriaeth o hyd yw diogelwch ein pobol ifanc a’n holl staff,” meddai Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio’n ddiflino ers i ni ddod yn ymwybodol o’r mater cenedlaethol hwn.

“Mae’r ddau adeilad ysgol wedi cael eu heffeithio yn wahanol gan RAAC.

“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi cymunedau’r ddwy ysgol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n penaethiaid, Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr allanol i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ddatrys mor ddiogel a chyflym â phosibl.

“Hoffwn ddiolch i’n pobol ifanc, rhieni a staff am eu hamynedd a’u cydweithrediad.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywed Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, mai diogelwch yw’r brif flaenoriaeth ar hyn o bryd.

“Ers i ni ddod yn ymwybodol o’r datblygiadau hyn, rydym wedi bod yn gweithio ar frys gydag awdurdodau lleol a Cyngor Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau y gall disgyblion a staff fynd yn ôl i’r ysgol yn ddiogel,” meddai.

“Rydym yn gwneud y penderfyniadau hyn gyda’n gilydd i gadw staff a disgyblion yn ddiogel.

“Mae Cyngor Ynys Môn a’r ysgolion yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau’r effaith ar ddisgyblion.

“Os bydd unrhyw un o’r camau hyn yn effeithio arnoch, byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan eich ysgol.”

Y sefyllfa mewn ardaloedd eraill

Dywed Cyngor Blaenau Gwent eu bod nhw’n hyderus nad oes ganddyn nhw ysgolion sydd wedi defnyddio’r concrid dan sylw.

Mae cynghorwyr wedi cael clywed bod archwiliadau ar ddau adeilad yn y sir lle bu pryderon.

Mae Cyngor Sir Fynwy dan y lach ar ôl iddyn nhw wrthod gwneud sylw, ac mae David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, yn pwyso arnyn nhw am ddatganiad ac yn gofyn am eglurder ynghylch y cyngor maen nhw wedi’i dderbyn ynghylch diogelwch adeiladau yn y sir.

 

Cau dwy ysgol ar Ynys Môn ar ôl dod o hyd i goncrit diffygiol

Ni fydd Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy nag Ysgol Uwchradd Caergybi yn agor fory (Medi 5)

Rhagor am goncrid RAAC:

Deunydd adeiladu Ysbyty Llwynhelyg yn arwain at gyhoeddi digwyddiad mawr mewnol

Mae’r bwrdd iechyd yn ceisio canfod maint ac effaith y Concrit Awyrog Awtoclaf Cyfnerth (RAAC) yn yr ysbyty yn Hwlffordd a rhannau o Ysbyty Bronglais

Neuadd Dewi Sant yn “ddiogel” er gwaethaf concrit RAAC

Ted Peskett (Gohebydd Democratiaeth Leol)

Dywedodd Cyngor Caerdydd bod y neuadd wedi cael ei harchwilio’n gyson am dros flwyddyn, ac nad oes dirywiad wedi bod i gyflwr y concrit