Mae concrit diffygiol RAAC wedi cael ei ganfod yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth adroddiad gafodd ei wneud gan Gyngor Caerdydd y llynedd gadarnhau bod nenfwd y neuadd wedi’i wneud â’r concrit.

Gall y math hwn o goncrit ddymchwel heb rybudd, ac mae pryderon ynghylch ei ddiogelwch wedi codi’n ddiweddar.

Dywedodd y cyngor bod Neuadd Dewi Sant wedi cael ei harchwilio’n gyson am dros flwyddyn, ac nad oes dirywiad wedi bod i gyflwr y concrit yno.

Mae disgwyl i’r Academy Music Group (AMG) gymryd rheolaeth o’r neuadd gan Gyngor Caerdydd yn fuan.

Mae gan goncrit RAAC oes o tua 30 mlynedd, a daeth ei ddiffygion i’r amlwg yn y 1990au.

Roedd y defnydd yn cael ei ddefnyddio’n aml i adeiladu rhwng y 1960au a’r 1990au, ond chafodd awdurdodau lleol Cymru ddim gwybod am y pryderon yn ei gylch tan 2020, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi canllawiau newydd ynghylch ei ddefnydd mewn ysgolion ym mis Awst 2023.

Ers hynny, mae nifer o ysgolion dros y wlad wedi gorfod cau yn sgil pryderon, gan gynnwys dwy ar Ynys Môn.

Dywedodd Cyngor Caerdydd bod eu harchwilwyr arbenigol yn blaenoriaethu ysgolion y ddinas ar y funud, ac nad oes RAAC wedi cael ei ganfod hyd yn hyn.

“Mae Neuadd Dewi Sant wedi cael ei harchwilio’n gyson ac yn fanwl gan arbenigwyr dros ddeunaw mis, ac yn ystod yr amser hwnnw dydy’r awdurdod lleol heb dderbyn unrhyw adroddiadau’n dweud bod dirywiad i gyflwr yr RAAC yn yr adeilad, ac mae hi’n ddiogel i ni barhau fel arfer,” medd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.

“Mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno strategaeth rheoli adeiladau ac iechyd a diogelwch, yn seiliedig ar gyngor arbenigol a gofynion y llywodraeth, er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel yn y tymor byr.

“Cyn iddyn nhw ddechrau rheoli Neuadd Dewi Sant, mae AMG wedi gwneud archwiliadau eu hunain hefyd ac maen nhw’n bwriadu gwneud y gwaith adnewyddu yn y tymor canolig i’r hirdymor.”

Archwilio ysgolion i ben ym mis Medi

Mae yna fwlch o £24m yng nghyllid Cyngor Caerdydd ar hyn o bryd, ac mae’r awdurdod lleol yn meddwl y gallan nhw arbed £1m drwy stopio rhedeg Neuadd Dewi Sant.

Mae dogfen yn cyfeirio at AMG yn cymryd drosodd yr adeilad yn awgrymu y gallai’r rheolwyr newydd orfod gwario £38m ar waith trwsio.

“Mae’r rhaglen archwilio’n blaenoriaethu adeiladau addysgol gafodd eu codi pan oedd y deunydd yma’n cael ei ddefnyddio’n gyson, a bydd hynny’n parhau nes y mae pob adeilad perthnasol wedi cael ei archwilio. Mae disgwyl i’r gwaith ddod i ben erbyn diwedd mis Medi,” ychwanegodd y llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.

“Os ydyn ni’n dod o hyd i amheuaeth bod RAAC yn bresennol, bydd mesurau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith a bydd ymgynghorydd arbenigol yn gwneud asesiad manwl er mwyn cynghori ar unrhyw waith adfer posib.

“Ers 2012, mae rhaglen ail-adeiladu ysgolion wedi bod ar waith yng Nghaerdydd, gan adeiladu ysgolion uwchradd a chynradd newydd sbon dros y ddinas a chymryd lle adeiladau oedd wedi cyrraedd diwedd eu hoes.

“Mae’r ail-adeiladu yn parhau, gyda mwy o adeiladau newydd gael eu cwblhau neu ar y ffordd.

“Er enghraifft, mae adeilad newydd Ysgol Uwchradd Fitzalan ac Ysgol Groes Wen yn agor yr wythnos yma, ac mae cynlluniau ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Uwchradd yr Helyg yn y Sblot yn bwrw yn eu blaenau, a champws arloesol yn Y Tyllgoed fydd yn gartref i dair ysgol newydd.

“Wrth i’r gwaith o chwilio am RAAC mewn ysgolion ddod i ben, mae ein tîm archwilio wrthi’n creu amserlen ar gyfer archwilio pob adeilad arall sy’n berchen i’r cyngor, ar sail blaenoriaeth.”

Mae’r Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol wedi gofyn i AMG am ymateb.

Cau dwy ysgol ar Ynys Môn ar ôl dod o hyd i goncrit diffygiol

Ni fydd Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy nag Ysgol Uwchradd Caergybi yn agor fory (Medi 5)