Mae un prif weithredwr Cyngor Ynys Môn wedi gwadu honiadau bod yr awdurdod yn trafod cynlluniau i gau 14 o ysgolion gwledig ar yr ynys erbyn 2030.
Cododd y mater wedi i ymgyrchwyr iaith annog trigolion yr ynys i gwestiynu ymrwymiad y cyngor i gadw ysgolion gwledig ar agor yn Sioe Môn yn ddiweddar.
Daeth wedi i Gyngor Ynys Môn gyflwyno strategaeth ddrafft ym mis Mai, a honnodd Cymdeithas yr Iaith y gallai olygu dechrau’r diwedd i rai ysgolion cynradd.
Roedd datganiad diweddarach gan Gymdeithas yr Iaith yn dweud: “Mae dogfen fewnol gan y cyngor sir wedi’n cyrraedd ac mae hi, mae’n ymddangos, yn argymell cau 14 ysgol gynradd cyn diwedd y degawd, a chreu tair ysgol newydd i ganoli addysg.”
Dywedodd arweinydd Cymdeithas yr Iaith ei bod hi’n “anodd i’r grŵp gredu bod y ddogfen yn un wir”.
‘Anodd credu’
Fodd bynnag, roedden nhw dal yn annog y cyhoedd i ymweld â’u huned yn y sioe sir i ofyn am y mater.
Dywedodd Robat Idris, cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith: “Mae hi’n anodd i ni gredu bod y ddogfen gyrhaeddodd ni drwy ffynhonnell anhysbys yn un wir, gan ei bod hi’n argymell tanseilio cymunedau gwledig Cymraeg yn y sir mewn ffordd sy’n mynd yn gwbl groes i bolisi llywodraeth canolog.
“Yn ôl y ddogfen, y bwriad unwaith eto ydy cau dros ddwsin o ysgolion gwledig Cymraeg y sir erbyn 2030.
“Mae’n anodd credu bod yna unrhyw sylwedd i’r ddogfen oherwydd mae’r mwyafrif helaeth ar restr swyddogol y Llywodraeth o ysgolion gwledig sydd i’w gwarchod, ac mae Cod Trefniadaeth Ysgolion y Llywodraeth yn gosod cynsail o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor.
“Byddai eu cau yn golygu mai dim ond llond llaw o ysgolion gwledig fyddai ar ôl o’u rhestr ym Môn, fyddai yn anochel yn arwain at ganoli darpariaeth addysg.
“Go brin y byddai’r Llywodraeth yn caniatáu’r fath ddirmyg tuag at ei pholisi.”
Roedd y grŵp y poeni’n bennaf am y “dirmyg fyddai hyn yn ei ddangos tuag at gymunedau gwledig Cymraeg y Sir, yr un cymunedau sydd yn sail i ddigwyddiad mor llwyddiannus â Sioe Môn.
“Byddai gweithredu polisi o’r fath yn golygu bod teuluoedd ifanc yn peidio ag ymgartrefu yn ein cymunedau gwledig, a byddai’r Gymraeg yn dod yn fwyfwy cyfyngedig i’r dosbarth ysgol.
“Yn ymarferol, byddai’r Cyngor yn gosod esiampl o gefnu ar gymunedau gwledig.
“Mawr obeithiwn mai rhyw bapur safbwynt di-nod yw’r ddogfen a ddanfonwyd atom, ond galwn ar y cyhoedd i holi’r Cyngor a oes sail iddi.”
‘Dim trafodaeth a dim dogfen’
Ers hynny, mae amheuon wedi cael eu trafod ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ond mewn datganiad, mae prif weithredwr Cyngor Ynys Môn, Dylan J Williams, yn dweud: “Nid oes trafodaeth i gau dros 14 o ysgolion cynradd erbyn 2030, fel sy’n cael ei honni gan Gymdeithas yr Iaith.
“Mae ein strategaeth Iaith Gymraeg a Moderneiddio Ysgolion wedi cael ei ffurfio er mwyn creu cymunedau dysgu sy’n addas ar gyfer y 30 mlynedd nesaf.
“Pwrpas hyn yw sicrhau’r cyfleoedd dysgu gorau posib i’n plant, pobol ifanc a’r iaith Gymraeg.
“Fel awdurdod, byddan ni’n parhau i gydymffurfio â disgwyliadau Llywodraeth Cymru.”
Dywedodd y cyngor bod yr holl sylwadau y gwnaethon nhw eu derbyn yn ystod y broses ymgynghori ffurfiol wedi cael eu hystyried, ynghyd â’r ymatebion i’r strategaeth ddrafft.
“Rydyn ni’n ail-bwysleisio nad oes yna unrhyw drafodaeth wedi digwydd ar gau dros 14 ysgol gynradd erbyn 2030, a does yna’r un papur mewnol fel mae Cymdeithas yr Iaith yn ei honni.”