Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi mynegi siom am gyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i greu cronfa ynni cymunedol i Loegr yn unig.

Daw hyn wedi iddyn nhw gael gwared ar welliannau fyddai wedi caniatáu i gynhyrchwyr ynni cymunedol werthu i gwsmeriaid lleol yn y Bil Ynni, a’u cyfnewid am y gronfa ar gyfer Lloegr yn unig.

Mae’r mudiad yn galw ar bob Aelod Seneddol o Gymru i gefnogi gwelliant sy’n gofyn am gadw’r drws ar agor ar gyfer masnachu ynni lleol.

Byddai hynny’n helpu i leihau biliau ynni, gwella diogelwch ynni, darparu buddion cymunedol ac yn helpu i ddiogelu asedau ar gyfer cymunedau, yn ôl Ynni Cymunedol Cymru.

Bwriad y Bil Ynni ydy creu darpariaeth ynglŷn â diogelwch ynni a rheoleiddio’r farchnad, ac mae’r bil wedi cyrraedd ei drydydd darlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (Medi 5).

‘Ergyd drom’

Wrth sgrifennu ar y cyd at weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dywed Ynni Cymunedol Cymru a Community Energy Scotland eu bod nhw’n credu nad ydy symud at net sero yn bosib os nad ydy cymunedau lleol yn cael gwerthu’r ynni maen nhw’n ei greu i gwsmeriaid lleol.

“Mae masnachu lleol yn dod â buddion niferus, gan gynnwys gostwng costau a phrisiau, gwytnwch yn erbyn newidiadau mewn costau, gwell diogelwch ynni, buddsoddi’n ôl mewn cymunedau, newid mewn ymddygiad sy’n arwain at ddefnyddio llai o ynni ac ehangu’r sector ynni cymunedol,”  meddai Leanne Wood, cyd-gyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru, a Zoe Holliday, Prif Weithredwr Community Energy Scotland.

“Mae gohirio’r gallu i werthu’n lleol yn ergyd drom i’r ymdrechion i bontio at system ynni cyfiawn.

“Yn lle hyn, maent wedi darparu £10 miliwn dros ddwy flynedd i ariannu astudiaethau dichonoldeb a chynlluniau ynni cymunedol newydd yn Lloegr yn unig.

“Er bod y grym i alluogi masnachu lleol yn nwylo San Steffan, a bod y methiant i weithredu ar hyn yn meddwl bydd pobol yn talu mwy am eu prisiau ynni yn yr hirdymor, maen wedi methu darparu cefnogaeth i’r sector ynni cymunedol yng Nghymru a’r Alban.

“Rydym yn gobeithio’r gorau i’n cydweithwyr yn Lloegr ac yn cydnabod y byddan nhw’n croesawu’r gronfa newydd hon, mae’n gynnig tila o gymharu â’r cyfleoedd y gallai cymunedau eu cael  o ddegawdau o fudd drwy fasnachu lleol.”

‘Cwestiynu ymrwymiad’

Ychwanegodd cyd-gyfarwyddwyr Ynni Cymunedol Cymru, Leanne Wood a Ben Ferguson, bod y datganiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “golygu bod rhaid cwestiynu ymrwymiad San Steffan i gyfiawnder” a’i fod yn “dangos methiant i gefnogi pobol leol sydd eisiau amddiffyn eu hunain yn wyneb natur anwadal y farchnad ynni.

“Mae gweithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyferbynnu’n llwyr gyda Llywodraeth Cymru, sy’n haeddu cael eu canmol am y gefnogaeth gyson a chryf i gymunedau arwain ar ymrwymiadau i gyrraedd allyriadau sero net.”

Maen nhw hefyd yn gofyn i weinidogion ddarganfod pam nad ydy Cymru a’r Alban yn derbyn arian drwy Fformiwla Barnett, fformiwla sy’n golygu bod y llywodraethau datganoledig yn derbyn hyn a hyn o arian pan fo buddsoddiad yn cael ei wneud yn Lloegr yn unig.