Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf, ac mae brwdfrydedd i’w weld yn yr ardal dros yr iaith Gymraeg.
Wrth baratoi at ymweliad yr Eisteddfod â Phontypridd, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ynghyd â busnesau lleol yn ymdrechu i ddarparu cyfleoedd i drigolion yr ardal ddysgu’r iaith.
Gyda’r cyfleoedd yn amrywio o gyrsiau dwys i sgyrsiau wythnosol anffurfiol, maen nhw’n gobeithio y bydd siaradwyr Cymraeg newydd yn ymweld â’r Eisteddfod ac yn manteisio ar y cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg.
Cwrs dwys i baratoi at yr Eisteddfod
Bydd cyfle i bobol sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf ddysgu Cymraeg am ddim fel rhan o ymdrech y sir i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2024.
Mae cwrs lefel mynediad a sylfaenol yn cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru.
Fe fydd y cwrs dwys yn para am naw awr bob wythnos gyda gwersi ar foreau Llun, Mawrth a Gwener rhwng 09:30 a 12:30.
“Mae’n amlwg fod yna fwrlwm ymhlith siaradwyr Cymraeg yn yr ardal, felly mae’n gyfle i ychwanegu at eu bwrlwm nhw gyda siaradwyr newydd,” meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2024, wrth golwg360.
“Bydd y rhai a fydd yn dilyn y cwrs yn cyflawni dwy lefel, sef mynediad a sylfaen, o fewn blwyddyn, felly bydden nhw’n siaradwyr erbyn eu bod nhw’n cyrraedd yr Eisteddfod.
“Gobeithio wedyn y byddan nhw eisiau gwirfoddoli a defnyddio eu Cymraeg yn yr Eisteddfod.
“Rydyn ni wir eisiau eu denu nhw, nid yn unig i’r Eisteddfod, ond i fod yn rhan o lywio beth fydd rhaglen yr Eisteddfod a threfnu gweithgareddau codi arian.
“Mae’n hyfryd a dw i wrth fy modd gan fy mod i am gael dysgu un o’r boreau.”
Bydd y cwrs yn dechrau Medi 11 ar gampws Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest, ac mae croeso i unrhyw un dros 18 oed ymuno gyda’r cwrs.
Bragdy yn cael hwyl gyda’r Gymraeg
Ar gyfer cyfleoedd mwy achlysurol i ddysgu’r Gymraeg, mae bragdy yn y Cymoedd yn gwahodd siaradwyr Cymraeg newydd i’r safle i sgwrsio bob dydd Gwener.
Sefydlwyd Bragdy Twt Lol yn Nhrefforest yn 2015, ac mae holl waith hyrwyddo’r bragdy yn gwbl ddwyieithog.
Penderfynodd y sylfaenydd, Phil Thomas, roi llwyfan i’r Gymraeg yn y bragdy a’i gynnyrch gan nad oedd yn teimlo bod y Gymraeg yn cael ei weld fel iaith gymdeithasol yn ei ardal.
“Beth rydyn ni’n trio gwneud yw cael ychydig o hwyl gyda’r Gymraeg,” meddai.
“Yn enwedig yn y de, rydyn ni’n gweld lot o Gymraeg mewn ffordd ffurfiol ond nid efallai mewn ffordd gymdeithasol, mwy anffurfiol a mwy agored i bobol.
“Felly defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd fwy hwyliog.
“Dw i’n meddwl y dylai pobol beidio becso gymaint [am fod yn gwbl gywir] mewn maes mwy anffurfiol – mae hi fwy pwysig bod pobol yn defnyddio Cymraeg na’i gael e’n gywir.
“Gydag ymarfer, mwy o bobol yn defnyddio’r iaith yn anffurfiol yna fydd e’n datblygu i fod yn fwy ffurfiol dros amser.”
‘Ymateb gwych’ i wersi Clwb Coffi
Busnes arall sydd â’i llygaid ar drefnu gwersi Cymraeg yw Clwb Coffi yn Nhonypandy.
Mae’r caffi’n awyddus i roi’r cyfle i ddechreuwyr gael blas ar yr iaith mewn gwersi anffurfiol er mwyn datblygu eu Cymraeg llafar heb arholiadau.
“Rydyn ni wedi bod eisiau gwneud rhywbeth fel hyn ers oes ond mae’n teimlo fel yr amser iawn nawr gyda’r Eisteddfod ar y ffordd,” meddai perchennog Clwb Coffi, Sarah Sutton wrth golwg360.
“Mae’n anodd trio mynd i ddosbarthiadau iawn pan wyt ti’n brysur ac wedyn trio astudio ar gyfer arholiadau hefyd.
“Felly, i ni’r nod yw cyrraedd pwynt ble rydyn ni’n gallu cael sgyrsiau yn y Gymraeg.
“Rydyn ni jest eisiau i bobol teimlo eu bod yn gallu ymwneud â’r Eisteddfod a bod ganddyn nhw’r hyder i sgwrsio yn y Gymraeg yno.
“Rydyn ni eisiau awyrgylch anffurfiol ble mae pobol yn gallu cael rhywbeth i yfed a pheidio teimlo gormod o bwysau.
“Mae’r ymateb wedi bod yn wych hyn yn hyn ac rydyn ni wedi cael cannoedd yn gadael sylwadau’n dweud eu bod eisiau cymryd rhan ac yn rhannu’r newyddion.”
Bydd mwy o fanylion am y gwersi yn cael eu rhannu dros yr wythnosau nesaf.