Mae polisi menopos wedi cael ei gymeradwyo yng Ngheredigion i helpu pobol sy’n cael trafferth â’r symptomau.

Cafodd Polisi Menopos Cyngor Sir Ceredigion ei basio gan Gynghorwyr yn ddiweddar, a’r bwriad ydy cefnogi staff sy’n mynd drwy’r menopos, a’u cydweithwyr a rheolwyr, i wella’u profiad yn y gwaith.

Dangosa data gan Gyngor Sir Ceredigion bod 66.1% o’u gweithlu, heb gyfrif staff ysgolion, yn fenywod ym mis Hydref 2022.

Roedd 34.1% ohonyn nhw rhwng 45 a 64 oed, a gallan nhw fod mewn oedran lle maen nhw’n debygol o brofi’r perimenopos neu’r menopos.

O ganlyniad, mae’n bwysig bod anghenion y grŵp yn cael eu hystyried yn y gwaith, meddai’r Cyngor.

‘Cynhwysol a chefnogol’

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Sir Ceredigion a’r Aelod Cabinet ar gyfer Pobol a Thrafnidiaeth, eu bod nhw wedi “wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cynhwysol a chefnogol, lle caiff pawb eu trin yn deg a gyda pharch ac urddas yn eu hamgylchedd gwaith”.

“Nid yw’r menopos bob amser yn gyfnod pontio hawdd ond gyda’r cymorth cywir gall fod yn llawer gwell,” meddai.

“Er nad yw pawb sy’n mynd trwy’r menopos yn dioddef symptomau, bydd cefnogi’r rheiny sydd yn eu profi yn gwella eu profiad yn y gwaith.

“Gobeithir cynnal gweithdy i’r Aelodau Etholedig ar y mater ac fel Cyngor byddwn hefyd yn cydnabod Diwrnod Menopos y Byd ym mis Hydref.”

Bydd Gwasanaeth Pobol a Threfniadaeth y Cyngor hefyd yn darparu cymorth pellach i’r rheiny sy’n profi symptomau’r menopos trwy gynnig caffi menopos lle gall gweithwyr gwrdd a chael cefnogaeth a gwybodaeth, ynghyd â chynnal sesiynau hyfforddiant ar y menopos i reolwyr.