Mae’r naturiaethwr Iolo Williams wedi dangos ei gefnogaeth i ymgyrch i warchod Gwastadeddau Gwent.

Fis diwethaf, fe wnaeth Ymddiriedolaeth Natur Gwent lansio deiseb yn galw am atal unrhyw ddatblygiadau sylweddol ar y tir, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Wrth ddangos ei gefnogaeth i’r ddeiseb, dywed Iolo Williams fod Gwastadeddau Gwent yn “gyfoethog mewn bioamrywiaeth” ac yn “anamnewidiadwy”.

Cafodd y ddeiseb ei lansio wedi i ddatblygwyr ffermydd solar gymryd camau cyfreithiol ar ôl i Weinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru wrthod rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer dau gynllun yn yr ardal.

Er bod swyddogion cynllunio wedi argymell caniatáu’r prosiectau ar Wastadeddau Gwent, fe wnaeth Lesley Griffiths eu hatal yn sgil yr effaith bosib ar fioamrywiaeth.

Mae’r ymddiriedolaeth yn cefnogi ynni solar, ond dydyn nhw ddim yn credu mai’r gwlyptiroedd yw’r lle gorau ar gyfer cynlluniau o’r fath.

‘Niweidio’r ardal’

Ychwanega Iolo Williams fod yna “berygl amlwg y gallai datblygiadau o bob math niweidio’r ardal hyfryd hon, sy’n llawn byd natur”.

“Byddai hynny’n arwain at ostyngiad mewn cynefinoedd hollbwysig, a fyddai’n cael effaith negyddol iawn ar nifer o rywogaethau prin,” meddai.

“Mae angen gwarchod y gwlyptiroedd bregus hyn yn iawn ar frys, yn sgil eu gwerth i ddynolryw, ynghyd â natur.”

Gwastadeddau Gwent. Llun gan Neil Aldridge

‘Cynefin pwysig’

Wrth siarad â golwg360 pan gafodd y ddeiseb ei lansio, dywedodd Nerys Lloyd-Pierce o Ymddiriedolaeth Natur Gwent eu bod nhw’n ymgyrchu nawr oherwydd ei bod hi’n ymddangos bod bygythiadau’n dod yn ôl yn gyson.

“Rydyn ni’n lansio’r ddeiseb nawr i geisio atal unrhyw ddatblygiad sylweddol pellach ac mae gennym gynllun iawn i warchod yr ardal hon oherwydd ei fod yn gynefin pwysig iawn i bob math o fywyd gwyllt,” meddai.

Mae’r ardal yn gynefin i anifeiliaid fel llygod pengrwn y dŵr, glas y dorlan a dyfrgwn, ynghyd â phlanhigion “unigryw”.

“Mae’n bwysig o ran newid hinsawdd, ac mae angen ei warchod nawr cyn ei bod hi’n rhy hwyr,” meddai Nerys Lloyd-Pierce wedyn.

“Unwaith y bydd datblygwyr yn dinistrio’r dirwedd, yna ni fydd yn cael yr effaith a gaiff nawr.”

Mae’r ardal hefyd yn storfa garbon bwysig gan fod y mawn yn amsugno’r carbon deuocsid.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl llefarydd, mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ar “gynllun strategol” i warchod yr ardaloedd ac yn diweddaru eu polisïau cynllunio cenedlaethol.

“Rydyn ni’n gweithio ar ganllawiau cynllunio strategol i warchod Gwastadeddau Gwent er mwyn osgoi rhagor o effeithiau annerbyniol o ran bioamrywiaeth a thirwedd,” meddai.

“Mae hon yn broses gymhleth a manwl.

“Rydyn ni hefyd yn diweddaru’r polisi cynllunio cenedlaethol er mwyn sicrhau bod rhagor o warchodaeth ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, megis Gwastadeddau Gwent.”

 

Ymgais i atal unrhyw ddatblygiadau sylweddol ar Wastadeddau Gwent

Lowri Larsen

“Rydyn ni’n lansio’r ddeiseb rŵan oherwydd mae’n ymddangos bod y bygythiadau’n dod nôl yn gyson”