Mae poblogaeth y nythfa fwyaf o adar huganod (gannets) yng Nghymru wedi haneru, yn ôl arolwg diweddar.
Mae Ynys Gwales, unarddeg o filltiroedd oddi ar Benmaen Dewi yn Sir Benfro, fel arfer yn gartref i hyd at 36,000 pâr o Huganod y Gogledd.
Mae’n un o ddwy nythfa ar gyfer huganod yng Nghymru, a hi yw’r drydedd fwyaf yn y Deyrnas Unedig.
Cyn 2022, roedd Ynys Gwales yn gartref i ychydig o dan 10% o boblogaeth huganod y Gogledd y byd.
Fodd bynnag, yn ôl canfyddiadau Cyfrifiad o Huganod Ynys Gwales ym mis Gorffennaf eleni, mae nifer yr huganod sy’n nythu ar yr ynys eleni wedi gostwng yn sylweddol.
Yn 2022, roedd 34,491 pâr o huganod wedi’u cofnodi ar yr ynys, ond 16,482 yw’r boblogaeth eleni – gostyngiad o 52%, yn ôl arolwg gan RSPB Cymru gafodd ei ariannu gan Cyfoeth Naturiol Cymru
Y tro diwethaf i boblogaeth y nythfa fod mor isel â hyn oedd yn 1969, pan gafodd 16,128 o huganod eu cofnodi yno.
Effaith y ffliw adar y llynedd sy’n gyfrifol am y gwymp yn y boblogaeth, meddai RSPB Cymru.
‘Tanamcangyfrif sylweddol’ yn dilyn y ffliw adar
Roedd dadansoddiad o luniau o’r awyr yn dangos bod y rhan helaeth o’r ynys wedi’i gorchuddio gan nythod gwag, a bod “dirywiad mawr” yn nifer yr adar yno, yn ôl RSPB Cymru.
O dan amodau arferol, dylai dwy ran o dair yr ynys gael ei defnyddio gan huganod sy’n nythu wrth ymyl ei gilydd, ond mae llawer o fannau gwag wedi ymddangos eleni.
Mae dirywiadau mawr yn dilyn ffliw adar wedi cael eu cofnodi mewn nythod eraill ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Troup Head yn yr Alban.
Er hynny, mae’r elusen yn dweud bod y cyfrifiad yn Ynys Gwales eleni yn danamcangyfrifiad “sylweddol”.
Blaenoriaethu a lleihau’r bygythiadau
“O ystyried y bylchau sylweddol roedden ni’n eu gweld yn y nythfa eleni, roeddem yn disgwyl gweld gostyngiad sylweddol yn y boblogaeth, ond doedden ni ddim wedi disgwyl un mor fawr â hyn,” meddai Greg Morgan, Rheolwr Safle’r RSPB ar Ynys Dewi ac Ynys Gwales.
“Y nythfa hon o Huganod ar Ynys Gwales yw un o ryfeddodau bywyd gwyllt gorau Cymru, a thrist iawn yw gweld bod y lleoliad gwych hwn yn dioddef dirywiad difrifol yn y boblogaeth.
“Bydd yn cymryd blynyddoedd i boblogaeth y nythfa godi yn ôl ar ei thraed, gan y gall huganod fod mor hen â phum mlwydd oed cyn iddyn nhw ddechrau bridio.
“Mae’r newyddion trist hwn yn enghraifft arall o pam mae gwir angen i ni flaenoriaethu a lleihau’r bygythiadau y mae adar y môr yn eu hwynebu – boed y rheini’n glefydau marwol, neu’n effeithiau newid yn yr hinsawdd.”
‘Gobaith’
“Mae’r gostyngiad yn nifer yr huganod ar Ynys Gwales, sef y drydedd nythfa fwyaf yn y byd ar un adeg, yn newyddion sy’n peri pryder mawr,” yn ôl Matty Murphy, Prif Gynghorydd Arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru ar Rywogaethau Morol.
Mae’r ffliw adar wedi’i gofnodi ar Ynys Gwales eto eleni, a bu i wyth aderyn farw yno ym mis Gorffennaf eleni.
Hyd yma, mae’n ymddangos mai argyfwng bach lleol yw hwn, medd RSPB Cymru.
Mae’n bosibl fod y boblogaeth sy’n weddill wedi datblygu imiwnedd yn erbyn y ffliw, ond byddai angen cynnal profion ar adar iach er mwyn gwybod hyn yn iawn.
“Mae gobaith, gan fod cyfraddau marwolaethau’r Huganod eleni yn llawer is na’r haf diwethaf, a allai fod yn arwydd o imiwnedd ymhlith y boblogaeth,” meddai Matty Murphy.
“Mae gan Gymru hefyd nythfa arall ffyniannus o Huganod ar Ynys Badrig, gogledd Ynys Môn, a fydd, gobeithio, yn gwneud ein poblogaeth o Huganod yng Nghrymu yn fwy gwydn yn y dyfodol.”