Mae ymdrechion ar y gweill i atal unrhyw ddatblygiadau sylweddol ar wlypdiroedd Gwastadeddau Gwent yn y dyfodol.
Ar ôl brwydro’n llwyddiannus yn erbyn Ffordd Osgoi’r M4, mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent wedi lansio deiseb yn galw am sicrhau bod y tir, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn cael ei warchod.
Daw hyn wedi i ddatblygwyr ffermydd solar gymryd camau cyfreithiol ar ôl i Weinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru wrthod rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer dau gynllun yn yr ardal.
Er bod swyddogion cynllunio wedi argymell caniatau’r prosiectau ar Wastadeddau Gwent, fe wnaeth Lesley Griffiths eu hatal yn sgil yr effaith bosib ar fioamrywiaeth.
Mae’r ymddiriedolaeth yn cefnogi ynni solar, ond dydyn nhw ddim yn credu mai’r gwlyptiroedd yw’r lle gorau ar gyfer cynlluniau o’r fath.
“Mae angen iddo fod yn y lle iawn, nid ar dirwedd o bwysigrwydd cenedlaethol sydd wedi’i dynodi’n bwysig ar gyfer bywyd gwyllt,” meddai Nerys Lloyd-Pierce o Ymddiriedolaeth Natur Gwent wrth golwg360.
Mae peilonau eisoes yn yr ardal a chafodd y safle ei dewis ar gyfer y ddau brosiect oherwydd y byddai’n bosib eu cysylltu i’r Grid Cenedlaethol.
Roedd y cynllun mwyaf, fyddai wedi cael ei leoli rhwng Maerun a Llansanffraid Gwynllŵg yng Nghasnewydd, wedi golygu creu fferm solar 122 hectar gyda chapasiti i gynhyrchu digon o drydan i 37,500 o dai.
‘Bygythiadau’n dod yn ôl’
“Rydyn ni’n lansio’r ddeiseb rŵan oherwydd mae’n ymddangos bod y bygythiadau’n dod nôl yn gyson,” meddai Nerys Lloyd-Pierce.
“Rydyn ni’n lansio’r ddeiseb nawr i geisio atal unrhyw ddatblygiad sylweddol pellach ac mae gennym gynllun iawn i warchod yr ardal hon oherwydd ei fod yn gynefin pwysig iawn i bob math o fywyd gwyllt.”
Mae’r ardal yn gynefin i anifeiliaid fel llygod pengrwn y dŵr, glas y dorlan a dyfrgwn, ynghyd â phlanhigion “unigryw”.
“Mae’n bwysig o ran newid hinsawdd, ac mae angen ei warchod nawr cyn ei bod hi’n rhy hwyr,” meddai Nerys Lloyd-Pierce.
“Unwaith y bydd datblygwyr yn dinistrio’r dirwedd, yna ni fydd yn cael yr effaith a gaiff nawr.”
Mae’r ardal hefyd yn storfa garbon bwysig gan fod y mawn yn amsugno’r carbon deuocsid.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn berchen ar warchodfeydd ledled y sir, ac mae’n cynnwys dolydd a choetir hynafol yn Nyffryn Gwy.
Roedd gwlypdiroedd fel hyn yn gyffredin ar draws gwledydd Prydain ar un adeg, ond maen nhw bellach yn un o’r cynefinoedd sydd dan y bygythiad mwyaf yn y Deyrnas Unedig.
Mae deiseb Ymddiriedolaeth Gwent i Achub Gwastadeddau Gwent wedi cael ei llofnodi 567 o weithiau, ac mae ganddyn nhw ddeiseb newydd yn galw ar y Senedd i atal unrhyw ddatblygiadau pellach yno.