Mae cwmni gemau o’r Unol Daleithiau am sefydlu eu pencadlys Ewropeaidd yng Nghaerdydd.

Bydd Rocket Science, sydd â swyddfeydd yn Efrog Newydd a Texas, yn creu 50 o swyddi wrth agor eu stiwdio newydd yn y brifddinas.

Y cwmni hwn sy’n gyfrifol am greu gemau fel Call of Duty a Fortnite, ac mae disgwyl i’r farchnad gemau cyfrifiadurol fyd-eang fod werth dros £200bn erbyn 2025.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu at y gost o symud y pencadlys, yn y gobaith y bydd y stiwdio newydd yn tyfu’r diwydiant yng Nghymru.

‘Canolfan gemau newydd’

Y swyddfa yng Nghaerdydd fydd trydedd gangen Rocket Science, a byddan nhw’n gwasanaethu cwsmeriaid ar draws Ewrop o’r fan honno.

Dywed Thomas Daniel, cyd-sylfaenydd Rocket Science o Ben-y-bont ar Ogwr, fod Caerdydd yn “gyfle ffantastig” iddyn nhw greu cartref yn Ewrop a manteisio ar y ddinas.

“Dw i wedi teimlo ers blynyddoedd bod gan Gaerdydd lawer iawn i’w gynnig i ddiwydiant gemau fideo’r byd a dw i wrth fy modd ein bod o’r diwedd, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Cymru Greadigol, yn troi hyn yn realiti,” meddai.

“A finnau’n byw yn yr Unol Daleithiau ond yn hanu o Gymru, dw i’n hynod o falch ein bod yn agor y stiwdio hon ym mro fy mebyd.

“Gobeithio y gallwn wneud ein rhan i ddenu mwy o gwmnïau gemau rhyngwladol i ymuno â ni yma yng Nghaerdydd cyn hir i wneud Caerdydd yn ganolfan gemau newydd nesaf y Deyrnas Unedig.

“Dw i’n grediniol y gall hynny ddigwydd.”

‘Gweddnewid y sector’

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, fod y buddsoddiad yn cefnogi amcan Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r diwydiant gemau yn y wlad.

“Bydd gan stiwdio newydd Rocket Science y potensial i weddnewid y sector, trwy greu 50 o swyddi bras, sbarduno’r economi i dyfu a datblygu ymhellach sector gemau Cymru, gan greu cyfleoedd gwaith o ansawdd uchel i genedlaethau heddiw ac yfory,” meddai.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â diwydiannau’r dyfodol i greu swyddi newydd o’r radd flaenaf, tra’n helpu’r staff sydd eisoes yn gweithio yn y sectorau hyn i ddatblygu eu sgiliau ymhellach.”

‘Newyddion gwych’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, y dylid gwneud Cymru’n “ganolbwynt gemau’r Deyrnas Unedig”.

“Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru, fydd yn darparu swyddi mawr eu hangen a rhoi hwb i’r economi,” meddai.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi galw ar wneud Cymru’n ganolbwynt gemau’r Deyrnas Unedig, ac mae hyn yn gyfle gwych i Gymru ddenu diwydiant sy’n prysur dyfu.

“Gobeithio y bydd y Llywodraeth Lafur yn adnabod y cyfle ac yn annog mwy o gwmnïau gemau i agor canghennau yng Nghymru.”