Mae fferm ym Methel ger Caernarfon yn “falch iawn” eu bod nhw wedi cyrraedd dros £50,000 mewn cyfranddaliadau er mwyn trosglwyddo perchnogaeth y tir a’r busnes i’r gymuned.
Agorodd fferm gydweithredol Tyddyn Teg y cynnig i bobol brynu cyfranddaliad yn y fferm ddechrau fis Gorffennaf, ac erbyn hyn mae ganddyn nhw dros 64 o fuddsoddwyr, gyda phob un wedi buddsoddi isafswm o £100.
Y cyfanswm maen nhw’n gobeithio ei godi yw £400,000, ac maen nhw wedi cyrraedd dros £52,000 o’r targed cychwynnol o £80,000.
Cafodd Tyddyn Teg ei sefydlu fel fferm gydweithredol er mwyn rhedeg y fferm a darparu llysiau o safon, wedi’u tyfu trwy ddulliau adfywiol.
Erbyn hyn, mae ganddyn nhw 14 o weithwyr gydag wyth o’r rheiny’n ffermwyr.
Penderfynon nhw drawsnewid y fferm ymhellach drwy sicrhau nad yw’n ddibynnol ar ymrwymiad ac adnoddau ychydig o bobol yn unig, gan agor y drysau i fuddsoddwyr.
“Mae tir yn rhy bwysig i orwedd mewn ychydig o ddwylo,” meddai Alice Gray, un o weithwyr y fferm, wrth golwg360.
Sicrhau dyfodol y cyflenwad bwyd i’r gymuned
Diben y cynnig cyfranddaliadau ydy sicrhau dyfodol Tyddyn Teg, gallu parhau i ddarparu ffrwythau a llysiau i’r gymuned, a chynnal bywoliaeth i’r gweithwyr.
Er mwyn sicrhau hyn, roedden nhw’n teimlo ei bod hi’n bwysig nad yw dyfodol y fferm yn dod i ben pe bai un teulu’n penderfynu peidio parhau i’w rhedeg.
“Dywedwch fod plant y teulu ddim eisiau bod yn ffermwyr a bod y rhieni eisiau ymddeol neu fod rhywbeth yn digwydd iddyn nhw, mae’n rhaid gofyn be sy’n digwydd wedyn,” eglura Alice Gray.
“Fel arfer, mae’r fferm yn cael ei gwerthu gan fod y plant angen eu hetifeddiaeth.
“Felly, rydan ni’n trio meddwl sut all y sefyllfa yna fod yn wahanol?
“Roedden ni’n meddwl os ydyn ni’n gwerthu’r fferm ffwrdd i tua 500 o bobol gyda chyfran fach, os ydy un person yn troi rownd a dweud eu bod nhw angen yr arian, maen nhw’n gallu cael yr arian yna, a gallwn ni ffeindio rhywun i brynu eu cyfran nhw.
“Y parhad a’r gwytnwch hwnnw rydan ni’n ceisio’u meithrin.
“Byddai hyn hefyd yn diogelu cyflenwad bwyd y gymuned gan ei fod ddim yn ddibynnol ar un teulu.”
Ailadeiladu’r berthynas rhwng y bobol, y tir a’r bwyd
Rheswm arall dros drosglwyddo’r berchnogaeth oedd er mwyn cwtogi’r gadwyn cyflenwi bwyd, a thrwy hynny, mae Alice Gray yn credu y bydd modd ailadeiladu’r berthynas rhwng y bobol, y tir a’u bwyd.
“Rydan ni eisiau meddwl ymhellach na ni ein hunain,” meddai.
“Rydan ni’n meddwl bod ffermydd cymunedol fel ein fferm ni am fod yn bwysig iawn ar gyfer diogelwch bwyd yn y dyfod, a nawr.
“Dylai’r gadwyn cyflenwi bwyd fod yn fyrrach, a gall Gymru fod yn hunangynhaliol mewn ffrwythau a llysiau pe bai yna fwy o ffermydd ble yna ddigon o le ar gyfer y math yna o fentr.
“Gall trosglwyddo’r tir a’r busnes hefyd helpu i ailadeiladu’r berthynas rhwng y bobol, tir a bwyd, oherwydd dw i’n meddwl ein bod ni wedi colli hynny rhywfaint yn ystod diwydiannu.
“Roedd pobol yn arfer bod yn agosach at y tir, a dydy hynny ddim mor wir erbyn hyn.”
Cronfa Cydsafiad Cymunedol
Mae gweithwyr y fferm yn rhagweld y bydd y gyfradd llog ar gyfranddaliadau yn 3%, a bydd y gyfradd yn cael ei thalu’n flynyddol o’r flwyddyn gyntaf y bydd pobol yn buddsoddi.
Os nad ydy buddsoddwyr eisiau cymryd eu harian allan pan fydd e wedi cronni, bydd opsiwn iddyn nhw roi cyfran o’r llog gaiff ei ennill ar eu cyfranddaliadau i’r Gronfa Cydsafiad Cymunedol.
Bydd Tyddyn Teg yn defnyddio’r gronfa hon er mwyn:
- noddi bocsys llysiau i deuluoedd sy’n wynebu trafferthion
- trefnu diwrnodau agored a digwyddiadau addysgol lle gall pobol ddysgu am gynhyrchu bwyd a ffermio cynaliadwy
- trefnu digwyddiadau cymdeithasol i ddod â phobol ynghyd dros fwyd, gan rannu syniadau a chreu cysylltiadau
- cefnogi prosiectau tir yn Ne’r Byd sydd ar flaen y gad o ran datblygu strategaethau gwytnwch yn wyneb heriau amgylcheddol, gwleidyddol a chymdeithasol.