Mae dyn 74 oed sy’n dweud iddo dreulio dwy noson mewn cadair yn Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi dweud bod staff yn “tynnu gwallt eu pen” yn ceisio dod o hyd i welyau i gleifion.
Dywed Malcolm Davies, sy’n dioddef o COPD – cyflwr anadlu hirdymor, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint – ei fod e wedi’i syfrdanu gan yr hyn welodd e.
“Fe wnaeth e agor fy llygaid,” meddai.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn dweud bod yn flin ganddyn nhw glywed am brofiad Malcolm Davies.
Dywed y bwrdd iechyd fod niferoedd uchel o gleifion difrifol wael yn dod i’r ysbyty a bod rhaid blaenoriaethu’r rhai ag anafiadau neu afiechydon difrifol neu sy’n bygwth bywyd.
Sefyllfa ‘ofnadwy’
Dywed Malcolm Davies, sy’n byw ar ben ei hun ym Mhontardawe, fod ambiwlans wedi mynd ag e i Ysbyty Treforys ddydd Sul diwethaf (Awst 13).
“Roeddwn i’n cael trafferth anadlu,” meddai.
Cafodd e ocsigen gan barafeddygon, wnaeth helpu gryn dipyn, meddai.
Arhosodd yn yr ambiwlans am beth amser cyn cael ei dderbyn i’r uned asesu, sy’n rhan o adran frys yr ysbyty.
Dywed ei fod e wedi treulio’r noson gyntaf mewn ystafell fawr ar yr un uned mewn cadair.
“Roedd hi fel cadair gegin, sedd blastig,” meddai.
“Doedd hi ddim yn gwyro’n ôl, ond roedd ganddi freichiau.”
Dywed ei fod yn tybio bod tua ugain claf arall ar gadeiriau yn yr ystafell, a bod prinder preifatrwydd.
“Roedd hi’n ystafell fawr iawn, roedd y goleuadau ymlaen drwy’r amser, roedd y nyrsys yn ôl ac ymlaen, ac roedd rhai yn chwyrnu,” meddai.
“Yr unig breifatrwydd roeddech chi’n ei gael oedd wrth fynd i’r tŷ bach.
“Doeddwn i methu credu’r peth.”
Honnodd nad oedd gobennydd ar eu cyfer, a’i fod e wedi gorfod defnyddio blanced fel gobennydd.
Dywed ei fod e wedi aros yn yr ystafell drwy gydol y diwrnod canlynol, ond ei fod e wedi cael cadair fwy cyfforddus oedd yn gallu gwyro’n ôl.
Ond roedd noson hir o’i flaen, meddai.
“Roedd e’n ddiddiwedd,” meddai.
Erbyn y trydydd diwrnod ar yr uned, roedd gwely ar gael ar ei gyfer a bu ynddo am ddwy noson cyn cael ei ryddhau i fynd adref ddydd Iau, Awst 17.
“Doedd y staff methu gwneud digon i ni, roedden nhw mor ffein, ac roedd y ffordd wnaethon nhw fy nhrin yn berffaith,” meddai.
“Ond roedd staff yn tynnu gwallt eu pen. Doedden nhw jyst ddim yn mynd i unman.”
Dywed Malcolm Davies fod ei feddyginiaethau wedi cael eu newid, a bod hynny wedi helpu, ond fod y ddwy noson o gysgu mewn cadair wedi gadael ei ôl arno.
“Mae’n ofnadwy, wir.”
Gwneud ‘gwaith sylweddol’
Wrth ymateb, dywed y bwrdd iechyd fod rhai cleifion yn aros yn hirach cyn cael eu gweld nag y byddai’r bwrdd yn ei hoffi, er gwaethaf eu hymdrechion gorau, gan eu bod nhw’n blaenoriaethu’r achosion mwyaf difrifol.
Dywed llefarydd ar ran y bwrdd iechyd fod yn ddrwg ganddi glywed am brofiadau Malcolm Davies, a’i bod hi’n hapus i drafod ymhellach er mwyn gwella profiad cleifion sy’n gorfod aros.
“Fodd bynnag, yn y pendraw, dydyn ni ddim eisiau i’n cleifion aros am gyfnodau hir er mwyn cael gwely,” meddai.
“Dyna pam ein bod ni wedi gwneud gwaith sylweddol i’n hadran frys, gyda’r bwriad o gynnig y gofal cywir i’r claf cywir yn y lleoliad cywir, er mwyn caniatáu i bobol all fynd adre’n ddiogel adael yn gyflymach.”
Dywed fod y bwrdd iechyd yn gwybod fod mwy i’w wneud, a’u bod nhw’n ceisio mynd i’r afael â’r mater.
Un her gyson sy’n wynebu’r holl fyrddau iechyd yw ceisio rhyddhau cleifion sy’n iach yn feddygol ond sydd angen pecyn gofal wedyn, ond nad yw hwnnw ar gael.
Ychwanega’r bwrdd iechyd fod modd i’r cyhoedd helpu drwy gael cymorth mewn llefydd oni bai am yr adran frys, gan gynnwys yn yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot.