Bydd siaradwyr Gwyddeleg yn cael cyfle i wersylla gyda’i gilydd yn un o wyliau cerddorol mwyaf Iwerddon.
Fe fydd llwyfan arbennig ar gyfer y Wyddeleg yng ngŵyl Electric Picnic, fydd yn cael ei chynnal yn Swydd Laois rhwng Medi 1 a 3, hefyd.
Yn ôl y mudiad iaith Conradh na Gaeilge, bydd y maes pebyll Gwyddeleg, Láthair Ghaeltachta, yn gyfle i bobol ddefnyddio’r iaith drwy gydol y penwythnos.
Mae’r llefydd ar y maes pebyll wedi’u gwerthu i gyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Bydd y llwyfan Gwyddeleg, An Chollchoill, yn llwyfan i gerddoriaeth draddodiadol gan artistiaid fel Band Céilí Shandrum, ynghyd â DJs mwy modern fel Ailbhe Ní Riain.
‘Y Wyddeleg wrth wraidd yr ŵyl’
Dywed Paula Melvin, Llywydd Conradh na Gaeilge, eu bod nhw, gyda chefnogaeth grŵp Foras na Gaeilge, wedi rhoi’r iaith Wyddeleg “wrth wraidd” yr ŵyl ers 2018.
“Bydd gan bobol gyfle i ddefnyddio Gwyddeleg yn yr ŵyl drwy wersylla yn y maes pebyll Gaeltacht a stopio ger llwyfan Collchoill bob un o’r tair noson,” meddai.
Electric Picnic yw un o uchafbwyntiau mwyaf calendar cerddorol Iwerddon, yn ôl Orlaith Nic Ghearailt o Conradh na Gaeilge.
“Mae gwyliau yn rhoi cyfle i ni fynegi’n hunain mewn ffordd unigryw – a beth yw iaith ond ffordd o fynegi’n hunan,” meddai.
“Yn y Collchoill, dan y coed a golau’r lleuad, gall pobol ddod i wrando ar y gerddoriaeth orau dros y penwythnos.”
Mae’r artistiaid eraill sy’n perfformio yn yr ŵyl eleni’n cynnwys Billie Eilish, The Killers, Paolo Nutini, Rick Astley a Tom Odell.