Gwisg ysgol ail law yw’r ffordd ymlaen o ran arbed arian a charbon, yn ôl Catrin Wager, rhiant sy’n sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Bangor Aberconwy yn San Steffan yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae hi’n un o nifer o rieni sydd wedi bod yn siarad â golwg360 ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd, wrth i’w plant ddychwelyd i’r ysgol yng nghanol argyfwng costau byw.

Wrth i bris gwisg ysgol gynyddu bob blwyddyn, mae sawl rhiant yn dweud mai’r ateb yw i Lywodraeth Cymru wneud mwy i helpu rhieni, yn enwedig y rheiny sydd ar incwm isel.

Ond ailddefnyddio hen wisg ysgol yw’r datrysiad, yn ôl Catrin Wager, sy’n gweld bod cost gwisg ysgol yn mynd yn straen i rieni a bod angen “normaleiddio” gwisg ysgol ail law.

“Dwi’n meddwl y dylen ni gyd fod yn gweld gwisgoedd ail law fel y dewis gorau – gan eu bod yn arbed carbon yn ogystal ag arian,” meddai.

“Mae gwisgoedd ysgol yn gallu bod yn ddrud, yn enwedig os ydy rhywun angen prynu mwy nag un peth ar unwaith, oherwydd plentyn yn cychwyn ysgol newydd, neu fod ysgol yn newid gwisg.

“Mae plant yn tyfu’n sydyn, ac yn aml mae yna ddigon o ddefnydd ar ôl mewn gwisg ar ôl i blentyn fynd yn rhy fawr iddi.

“Tra bod o’n arferol pasio gwisg ymlaen o fewn teulu neu grŵp o ffrindiau, tydi hyn ddim bob tro’n opsiwn, a dwi’n meddwl ein bod ni angen normaleiddio gwisgoedd ail-law.

“Ddylai gwisgoedd ail-law ddim cael eu gweld fel rhywbeth i bobol sydd mewn sefyllfa ariannol anodd, gan fod hynny’n cyfrannu at stigma.

“Yn hytrach, rwy’n meddwl y dylen ni fod yn gweld gwisgoedd ail-law fel y dewis gorau, gan eu bod yn arbed carbon yn ogystal ag arian.

“Er enghraifft, mae Partneriaeth Ogwen wedi bod yn rhedeg cynllun rhannu gwisgoedd ail-law eleni, sydd wedi arbed £14,000 a 5000kg o garbon.

“Mae angen gweld gweithredu fel hyn ar draws Cymru, dwi’n meddwl, fydd yn helpu newid ein hymddygiad tuag at wisgoedd ail-law, yn ogystal ag arbed arian i deuluoedd ar yr amser anodd yma.”

Pobol methu fforddio talu am wisgoedd ysgol

Yn ôl rhiant arall sydd eisiau aros yn ddienw, cyfrifoldeb y Llywodraeth yw datrys y sefyllfa.

“Mae costau byw wedi cynyddu, ac mae pobol yn cael trafferth talu eu biliau dyddiol,” meddai.

“All rhai pobol ar isafswm cyflog ddim fforddio talu am wisg ysgol ar ben popeth arall.

“Ar gyfer plant sy’n dychwelyd i’r ysgol, mae siwmper newydd tua £20, sy’n golygu dau neu efallai tri o’r rheini, felly mae hynny’n £40-£60.

“Yna mae’r crysau T tua £15 yr un; mae angen ychydig o grysau T, mae hynny’n mynd ag e i £100.

“Rydych chi’n gwario tua £50 ar y trowsus, felly mae hynny tua £150, gyda bag ysgol tua £40.

“Dydi plant ddim eisiau gwisgo unrhyw hen esgidiau; mae’n ymwneud ag enwau, maen nhw eisiau Nike neu Adidas.

“Unwaith y byddwch chi’n dod â chit Addysg Gorfforol i mewn, mae’n ddrud.

“Nid oes cefnogaeth i deuluoedd ar incwm isel gyda chost gwisgoedd.

“Os oes gennych chi dri neu bedwar o blant, gallwch chi wario £1,000 yn hawdd ar blant sy’n mynd yn ôl i’r ysgol.

“Mae’n rhaid i lawer o bobol weithio ychydig o wythnosau oherwydd bod yr arian hwnnw’n mynd allan ar yr un pryd.

“Mae angen i’r Llywodraeth roi mwy o gefnogaeth i rieni, yn enwedig y rhai ar incwm isel, i gefnogi pobol i brynu gwisg ysgol yn lle bod yn gur pen bob blwyddyn.

“Pan nad yw’r plentyn yn gwisgo’r wisg ysgol, mae cosbau, bydd yr ysgol yn eich ffonio.

“Dydw i ddim eisiau i fy mhlentyn fod y plentyn yna’n methu fforddio’r siwmper ysgol newydd.

“Mae’n rhoi llawer o bwysau ar rieni.”

Brwydr mam sengl

Mae mam sengl, sydd hefyd eisiau aros yn ddienw, hefyd yn poeni am y gost, ac mae hithau hefyd yn teimlo y dylai’r Llywodraeth helpu.

“£16.99 am siwmper ysgol i un ydi hynna, ac fel maen nhw’n tyfu a meintiau yn mynd yn fwy, mae prisiau’n codi.

“Dydy crysau-T ysgol ddim llawer rhatach chwaith.

“Dylsen ni gael y rhain yn unbranded gan y Llywodraeth, neu gymorth tuag at y gost.

“Fel rhiant sengl, rwy’ wedi gwario dros £300 rhwng cotiau ysgol, gwisgoedd ysgol, esgidiau, bagiau ac ati.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb, dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yna gefnogaeth ar gael i helpu pobol eisoes, a hynny ar ffurf y Grant Hanfodion Ysgol.

Yn sgil y grant yma, mae £125 ar gael i bob disgybl sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae’r swm yn cynyddu i £200 ar gyfer disgyblion cymwys ym Mlwyddyn 7.

“Rydyn ni wedi newid y canllawiau ar bolisi gwisgoedd ysgol i gydnabod y pwysau sydd ar deuluoedd o ganlyniad i’r argyfwng costau byw,” meddai.

“Mae’r canllawiau newydd y gwnaethom eu cyhoeddi ym mis Mai yn gofyn i bob ysgol ei gwneud hi’n glir y dylai gwisgoedd ysgol fod yn fforddiadwy ac na ddylen nhw roi pwysau ychwanegol ar deuluoedd.

“Mae’r canllawiau’n nodi na ddylai logos fod yn orfodol ar bob eitem, ac y dylai pob ysgol weithredu cynllun ailgylchu a chyfnewid gwisgoedd ysgol.

“Rydyn ni hefyd wedi ymestyn y cymorth sydd ar gael i helpu teuluoedd ar incwm isel i gwrdd â chostau ysgol drwy ein Grant Hanfodion Ysgol.

“Dyma’r cynllun cymorth mwyaf hael o’i fath yn y Deyrnas Unedig, gyda thua 98,000 o ddysgwyr yng Nghymru yn gymwys i gael cymorth i brynu gwisg ysgol, cit ac offer arall.”