Mae Cyngor Conwy gam yn nes at roi eu pencadlys – adeilad rhestredig Gradd II – ar y farchnad.
Cytunodd Cyngor Conwy i wario £255,000 i ailwerthuso’u hystâd – proses sy’n debygol o weld Bodlondeb yn cael ei roi ar werth.
Yng nghyfarfod y pwyllgor craffu, pleidleisiodd cynghorwyr dros gefnogi adroddiad ‘strategaeth un swyddfa’.
Unwaith fydd Bodlondeb yn cau, y cynllun yw canoli staff yn adeilad Coed Pella’r Cyngor ym Mae Colwyn, gyda’r bwriad o adfywio’r dref.
Pryderon
Ond tra gallai’r cam fod o fudd i Fae Colwyn, mae pryder y gallai’r gwerthiant fod yn andwyol i Gonwy.
Dywed y Cynghorydd Siân Grady y gallai rhoi Bodlondeb ar y farchnad arwain at roi’r gorau i ddefnyddio’r adeilad neu y gallai ddadfeilio, yn debyg i’r hen Neuadd Ddinesig sydd wedi bod ynghau ers blynyddoedd bellach.
Mae’r Neuadd Ddinesig a’r hen lyfrgell yn dal dan berchnogaeth Conwy, ond mae’r datblygiad yn aros i gais cynllunio gael ei gyflwyno gan Nautical Point Cyf i’w droi’n neuadd fwyta, bwyty a gwesty/fflatiau â phymtheg ystafell.
“Y rheswm dw i’n poeni ydi fod gennym ni’r Neuadd Ddinesig yn dal i fynd ar ôl yr holl flynyddoedd hyn,” meddai’r Cynghorydd Siân Grady.
“Does gennym ni ddim penderfyniad ar hynny o hyd. Dydi o ddim wedi dod i fwcwl.
“Mae’n prysur ddadfeilio, a fy mhryder i ydi y bydd Bodlondeb yn mynd yr un ffordd.”
‘Ydi, mae’n risg’
“Ydi, mae’n risg,” meddai Bleddyn Evans, rheolwr ystadau Conwy.
“Fodd bynnag, am wn i maen nhw’n ddau anifail gwahanol yn nhermau Neuadd Ddinesig Conwy a Bodlondeb o ran elfen y farchnad neu fasnach, heb sôn am yr elfen gynllunio hefyd.
“Ond yn amlwg, bydden ni’n ymwybodol yn nhermau’r gwersi gafodd eu dysgu o’r profiad o ran y Neuadd Ddinesig, ac yn amlwg bydden ni’n ofalus iawn o ran sut fydden ni’n ymdrin â Bodlondeb, a gobeithio na fydden ni’n ailadrodd problemau tebyg yn y fan honno, problemau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni.”
Ond dydy’r ymateb hwnnw ddim wedi darbwyllo’r Cynghorydd Siân Grady.
“Dw i’n deall ei fod yn fwy masnachol ddichonadwy yn amlwg, a bod cynllunio ychydig yn wahanol, ond ddim mewn gwirionedd oherwydd mae’n dal i fod yn yr un ward â’r castell a phopeth arall ddaw i mewn iddi,” meddai wrth siarad am Bodlondeb.
“Dw i’n gwybod ei fod ychydig yn wahanol gan ei fod y tu allan i furiau’r dref, ond mae ganddo’r un rheoliadau cynllunio fydd yn mynd yn ei erbyn, a’r cyhoedd hefyd, ac mae’n bosib y gallen ni wynebu llawer o’r un problemau dros y blynyddoedd unwaith eto, sy’n dirywio’r adeilad ymhellach.”
‘Cyfle i atgyfnerthu’
Mae’r Cynghorydd Nigel Smith yn cefnogi’r cynnig i ganoli ystâd y swyddfa.
“Mae gennym ni swyddfa ryfeddol bellach yng Nghoed Pella sy’n cartrefu ein staff, gan ddod â thraed i mewn i dref hyfryd Bae Colwyn, gyda’n swyddogion yn gwario arian yn lleol, gan roi hwb i’r economi yno. Rydyn ni ar ein hennill,” meddai.
Yn ôl Charlie McCoubrey, arweinydd y Cyngor, “mae gennym ni gyfle i atgyfnerthu a gyrru’r costau hynny i lawr a chael derbyneb cyfalaf o’r adeilad hwn”.
“Po fwyaf rydyn ni’n oedi cyn gwneud hynny, lleia’ fydd yr arbedion yno.”
Pleidleisiodd cynghorwyr o blaid enwebu’r Cynghorydd Andrew Wood i gynrychioli’r pwyllgor ar fwrdd y prosiect.
Pleidleisiodd y pwyllgor hefyd o blaid rhoi cymeradwyaeth y Cabinet i gyllideb gyfalaf o £255,000 er mwyn datblygu’r achos busnes llawn, fydd yn cael ei ariannu drwy arian cyfalaf wrth gefn.
Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng nghyfarfod y Cabinet yn y dyfodol.