Mae’r defnydd o ieithoedd brodorol Sbaen yn senedd y wlad gam yn nes, ar ôl i nifer o bleidiau gyd-gyflwyno cynnig.
Mae Sumar, plaid sosialaidd yng Nghatalwnia, wedi cyflwyno’r cynnig ar y cyd â phleidiau yng Ngwlad y Basg a Galisia.
Mae disgwyl i’r mesur gael ei basio ar Fedi 19, wythnos cyn i’r darpar arweinydd newydd Alberto Núñez Feijóo wynebu pleidlais yn ei ymgais i fod yn brif weinidog nesa’r wlad.
Roedd Junts per Catalunya wedi cymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch cynnwys y ddeddfwriaeth, ond dim ond Esquerra Republicana o blith y pleidiau dros annibyniaeth sydd wedi llofnodi’r ddogfen.
Ond mae disgwyl i Junts ei gymeradwyo cyn dadl ar Fedi 26 a 27 ynghylch ffurfio llywodraeth gyda Phlaid y Bobol yn ei harwain.
Byddai’r ddeddfwriaeth yn rhoi’r hawl i wleidyddion siarad mewn unrhyw un o ieithoedd Sbaen yn y senedd, gan gynnwys ieithoedd eraill sydd wedi’u gwarchod, megis Aranese, Aragonese neu’r iaith Astwraidd.
Roedd y ddeddfwriaeth hon yn rhan o gytundeb er mwyn sicrhau y byddai Francina Armengol o’r Blaid Sosialaidd yn cael dod yn Llefarydd.