Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud na chafodd e wybod y byddai tywysog newydd i Gymru tan i’r Brenin Charles III gyhoeddi ar y teledu nos Wener (Medi 9) y byddai ei fab William yn ei olynu yn y rôl.

“Doeddwn i heb glywed dim byd,” meddai Mark Drakeford wrth siarad ar Dros Frecwast ar Radio Cymru fore heddiw (dydd Llun, Medi 12).

Bu sgwrs ffôn rhwng y ddau, lle fuon nhw’n trafod ei rôl fel tywysog newydd Cymru a’i brofiadau’n byw yn Ynys Môn.

Pan gafodd ei holi a fyddai seremoni arwisgo, dywedodd Mark Drakeford nad oes “dim hast” i gynnal y seremoni.

“Ges i ddim cyfle i siarad am hwnna a does dim hast,” meddai.

“Wrth gwrs, yr wythnos hon, mae popeth yn digwydd ar hast, mae’n angenrheidiol, ond mae lot o bethau sy’n mynd i ddigwydd nawr ar ôl yr angladd dydd Llun nesaf a bydd mwy o amser, dw i’n meddwl, i feddwl am y ffordd orau i wneud pethau.”

Dysgu am flaenoriaethau’r bobol

Wrth sgwrsio dros y ffôn, dywedodd Mark Drakeford fod y Tywysog William yn “siarad lot am y profiadau oedd e a’r teulu wedi cael lan yn Ynys Môn”.

Pan gafodd ei holi a yw’n teimlo bod y teulu brenhinol yn sensitif i farn pobol am rôl Tywysog Cymru, dywedodd: “Ie, dw i’n meddwl”.

“Dw i’n siŵr bod nhw’n gwybod bod Cymru’n 2022, ddim fel oedd Cymru’n 1969,” meddai.

“Mae lot o bethau wedi newid.

“Mae agweddau wedi newid hefyd.

“Dyna pam dw i’n meddwl y ffordd orau yw, nid i fynd y gyflym i wneud pethau eraill, ond i ddod i gymryd amser i ddod i Gymru i gwrdd gyda’r bobol, i feddwl am y pethau mae Tywysog newydd Cymru yn gallu gwneud yn effeithiol, ac os mae cyfle ar gael, rhoi cyfle i’r ddadl.

“Roedd e’n edrych ymlaen at wasanaethu’r bobol pan fydd y cyfle a’r cyfrifoldebau newydd yn dod ato fe.

“Fel dywedodd e i fi, i ddysgu mwy am flaenoriaethau i bobol Cymru a gweld ble allai e wneud gwahaniaeth.”

Arwisgo Charles yn 1969

Wyt ti’n cofio Macsen? Os na, beth am 1969?

Ffred Ffransis

Eto eleni y mae rhai o’r un dadleuon â 1969. A fedrwn ni ddysgu o hanes?

Gallai Tywysog Cymru gael ei Arwisgo yn Eglwys Gadeiriol Llandaf

Mae lle i gredu bod William eisiau llawer llai o rwysg na’r hyn oedd i’w gael yn seremoni ei dad yng Nghaernarfon yn 1969

Deiseb yn galw am ddiddymu teitl Tywysog Cymru wedi denu dros 18,000 o lofnodion

Mae’r ddeiseb yn galw am ddangos parch ar ôl y cyhoeddiad mai William yw Tywysog Cymru ar ôl i’w dad Charles ddod yn Frenin Lloegr
Y gwleidydd yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru yn 2015

Does dim angen Tywysog ar Gymru, medd Dafydd Elis-Thomas

“Pa synnwyr ydi o i gael Tywysog Cymru sydd heb ddim swyddogaeth gyfansoddiadol?”

William a Catherine yw Tywysog a Thywysoges newydd Cymru

Daeth y cyhoeddiad gan y Brenin Charles III yn ei anerchiad cyntaf ers dod yn frenin