Mae cwmnïau dŵr yn trin traethau, afonydd a llynnoedd “fel carthffosydd”, yn ôl elusen.
Yn ôl dadansoddiad Surfers Against Sewage, cafodd carthion neu lygredd eu gollwng ger nifer o draethau dros Gymru yn ddiweddar.
Roedd y traethau’n cynnwys Traeth Gwyn Ceinewydd, Llangrannog, Traeth y De Aberystwyth, a Thraeth Poppit Sands (i lawr yr afon o Aberteifi), ac mae Democratiaid Rhyddfrydol Ceredigion wedi beirniadu Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru, gan ddweud bod yr arfer yn peryglu’r diwydiant twristiaeth yno.
Mae gan yr elusen fap rhyngweithiol sy’n dangos pa draethau sy’n cael eu heffeithio gan ddŵr ag ansawdd gwael, ac mae’n dibynnu ar ddata gan Ddŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Ar hyn o bryd, mae’n argymell pobol i beidio â nofio yn Rhyl, Dwyrain Rhyl, Bae Abertawe, Aberdyfi, na Gogledd Trefdraeth yn Sir Benfro.
Fodd bynnag, dydy pob digwyddiad o ollwng carthion neu lygredd ddim yn cael eu hadrodd.
‘Amser am newid’
“Ers preifateiddio yn 1989, mae’r diwydiant [dŵr] wedi anwybyddu eu mandad i fuddsoddi er mwyn uwchraddio isadeiledd, ac yn hytrach maen nhw wedi gwario eu helwon ar ddifidendau a thâl ychwanegol,” meddai Hugo Tagholm, Prif Weithredwr Surfers Against Sewage.
“Ein traethau, afonydd a’n llynnoedd yw rhai o’n hadnoddau naturiol mwyaf gwerthfawr ond mae cwmnïau dŵr yn eu trin nhw fel carthffosydd agored, gan ddinistrio bywyd gwyllt ac achosi peryglon iechyd difrifol i bawb sy’n trio eu mwynhau.
“Mae hi’n amser am newid – rhaid i’r diwydiant dŵr a chyrff rheoleiddio stopio torri corneli ariannol er mwyn ochri â rhanddeiliaid barus a dechrau blaenoriaethu ymdrechion i ddiogelu ein dyfroedd gwyllt.”